Rhaglenni i'r plant lleiaf: Darllen 'Da Fi, Twm Tisian, Peppa Pinc, Cwm Teg, Un Tro, Cwpwrdd Cadi, Sam Tân, Cei Bach, Hafod Haul, Traed Moch.
Mae Meilyr Siôn yn Ysgol Pendalar, lle mae'n darllen y llyfr 'Watsh Anweledig Wil' am fachgen bach sy'n gallu dweud yr amser - er nad oes ganddo watsh!
Mae Twm Tisian eisiau bwyd ac mae'n dod ar draws caffi braf. Ond beth mae Twm yn mynd i gael i fwyta? Mae gormod o ddewis ar y fwydlen.
Cartwn i blant ifanc yn dilyn anturiaethau Peppa Pinc, ei brawd George a'i rhieni.
Mae'n ddiwrnod arbennig iawn i ddau o blant Cwm Teg heddiw. Mae'n ben-blwydd ar Megan a Gruff!
Dyma stori gyfarwydd a phoblogaidd Elen Benfelen a'r Tri Arth, sydd dros 200 mlwydd oed.
Mae'r plant yn helpu cogydd i goginio cacen ben-blwydd i'w fab ac yn mwynhau creu cerddoriaeth yr un pryd.
Mae ar Norman angen help Radar i edrych ar ôl Swci ag Oenig.
Mae Mari bob amser yn barod i gynnig help llaw i bawb er mwyn iddyn nhw gael gorffwys. Ond un diwrnod, mae Mari'n dysgu ei bod hi weithiau'n well dweud "na" na cheisio gwneud gormod a gadael pawb i lawr yn y diwedd - gan gynnwys hi ei hun.
Pan mae Heti'n gadael y fferm am y diwrnod mae'r anifeiliaid yn penderfynu bod hyn yn gyfle iddynt gael sbort a sbri. Mae'r hwyaid yn cynnal mabolgampau, y moch yn chwrae pêl-droed, ac mae Caio a Cadi yn creu llanast yn y ty.
Bois Bach, ma' pethau'n Draed Moch yn y cartwn hwn pan fo Porchell, Ffyrgi a Dwynwen ar hyd y lle!
Ymunwch â'r criw am ddwy awr o hwyl yn fyw o stiwdio Stwnsh Sadwrn!
Anturiaethau Oscar y fadfall a'i ffrindiau yn yr anialwch chwilboeth.
Pan mae Mr Cranci'n gweld Spynjbob yn codi rhywbeth oddi ar y llawr, mae'n credu ei fod o wedi ffendio ceiniog - ceiniog y dylai Mr Cranci fod wedi ei ffendio gyntaf!
Dim gwybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd
Yn Y Lle yr wythnos hon, gwobrau Gwyl Pics 2012, tips harddwch Courtenay Hamilton, Sesiwn Recordio Y Cyfoes a Tomos a Garmon fydd yn trafod yr Aps diweddara'! Y Lle Y lle i fod!
Yr wythnos hon mae Iolo Williams a Shân Cothi'n ymweld ag ardal papur bro cylch 'Stiniog, sef Llafar Bro, gan ymuno yn yr hwyl mewn noson o blygu'r papur.
Bydd Iolo a Shân yn ymweld â phapur bro 'Y Dinesydd' yng Nghaerdydd. Byddant yn cwrdd â Gwilym Roberts i glywed mwy am hanes y papur. Byddant hefyd yn ymweld â chanolfan ddringo yn y ddinas ac yn cwrdd â dringwraig brofiadol iawn. Bydd Iolo'n cwrdd â Gwyn Roberts, artist sy'n cael ei gymharu â'r enwog Kyffin Williams, tra bod Shân yn sgwrsio â Non Griffiths, dawnswraig bale o fri.
Augusta Hall, Gwenynen Gwent ac Arglwyddes Llanofer - tri enw ar gyfer un person! Bydd Ffion Hague yn olrhain hanes yr uchelwraig o dras Seisnig, oedd yn un o'r ymgyrchwyr cyntaf a mwyaf pybyr dros yr iaith Gymraeg.
Dewch ar daith i'r Gwyr. Ardal Porth Einion sy'n dechrau'r daith a rysait blasus yn cyfuno stecen o gig oen morfa heli gyda bara lawr a chocos, y cyfuniad perffaith! Fairy Hill sy'n cael y sylw yn y Welsh Rarebit, gwesty hyfryd yng nghanol gerddi hudolus. Bydd tiipyn o hwyl i'w gael yn y mentora yr wythnos hon a'r gri yn dod gan Trystan Williams oedd angen cymorth i greu pryd bach ffansi. A fydd yn llwyddiant ysgubol neu a fyddant yn sgubo'r bwyd dan y carped? A phwdin bara menyn siocled ac oren, mae'n werth ei weld a'i flasu!
Mae Iolo Williams ar daith anturus i leoliadau mwyaf anghysbell a gwyllt Gorllewin Ewrop. Mae wedi cyrraedd Iwerddon ac yn profi bywyd gwyllt a thirwedd anhygoel ynysoedd Y Skelligs, Cilarne, Swydd Clare, Y Burren ger Doolin, Ballycroy ac Ynys Boffin ar arfordir gorllewinol Connemara.
Y Tywydd.
Gydag Uwch Gynghrair Cymru bellach wedi'i hollti'n ddau, mae 'na dipyn o frwydr ymysg y chwech isaf wrth iddyn nhw gystadlu am y seithfed safle er mwyn sicrhau gêm ail-gyfle am le yn Ewrop tymor nesa'. Ond mae 'na frwydr arall yn datblygu hefyd. Mae 'na ddau o hen selogion yr Uwch Gynghrair yn ymladd am bob pwynt mewn ymdrech i osgoi'r cwymp, ac mae'r ddau yn cyfarfod y prynhawn 'ma ar Goedlan Y Parc lle mae Aberystwyth yn croesawu Caerfyrddin, gyda'r gêm yn fyw ar S4C - cic gyntaf, 15:45. Hefyd, cyfle i weld uchafbwyntiau'r gemau a chwaraewyd neithiwr rhwng Prestatyn a'r Seintiau Newydd, Y Drenewydd v Airbus a Phort Talbot v Lido Afan, yn ogystal â'r gwasanaeth canlyniadau arferol trwy gyfrwng y 'sgoriadur' yn ystod y prynhawn.
Mae Tecs wedi trefnu gêm rhwng Cwm Glas o'r De a Bryncoch er mwyn hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth rhwng y De a'r Gogledd, ac mae pawb yn edrych ymlaen at y gêm. Wel, pawb ond Arthur, wrth gwrs!
Ysgol Glanaethwy a'u ffrindiau yn dathlu'r dwbl wrth edrych yn ôl ar uchafbwyntiau 150 mlynedd o'r Brifwyl a 21 mlynedd o hanes yr Ysgol mewn gwledd o gân, dawns a theatr. Fe ffilmiwyd y rhaglen yn ystod Eisteddfod Genedlaeth Wrecsam 2011.
Eleri Siôn sy'n cyflwyno Rhian Lois, Siân James, Y Cut Lloi, Aeron Pughe, Criw Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi, Steffan Harri, Bronte Barbe ac Angharad Lewis i gynulleidfa groesawgar o Sir Drefaldwyn
Mae un o gwmnïau recordio mwya'r byd, Decca Records, a'r asiant Sioned James ar daith i ddarganfod y llais nesaf i gynrychioli Cymru yn y byd canu. Mae'r broses o ddatblygu a dysgu bron drosodd i'r pedwar canwr ifanc ac mae noson eu perfformiad hollbwysig yn Llundain wedi cyrraedd. Cawn glywed ymateb y panel a darganfod a fydd un o'r perfformwyr yn haeddu derbyn cytundeb recordio gan Decca Records.
Ar ddechrau penwythnos cyffrous ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens a Sarra Elgan ar gyfer pennod hwyliog o 'Jonathan'. Tybed ble fydd Rhian 'Madam Rygbi' Davies yr wythnos hon, wrth iddi ddilyn tîm Cymru o amgylch y lle. Heno, arwr rygbi Cymru, Gareth Edwards, a'r actores Alexandra Roach fydd yn twymo'r soffa goch ac yn cystadlu'n frwd wrth fynd Ar y Pyst.