Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Sioe M&ocircn / Mela : Digwyddiadau '10

Digwyddiadau '10 yn Sioe Môn a Sioe Mela

Mae'r gyfres Digwyddiadau '10 yn parhau ar S4C gan ymweld â dau ddigwyddiad tra gwahanol i'w gilydd.

Yn gyntaf, bydd Mari Grug a Morgan Jones yn dod ag uchafwbwyntiau Sioe Môn i ni mewn dwy bennod awr o hyd a ddarlledir ar yr un nosweithiau â'r sioe ei hun.

Gall ymwelwyr â'r sioe fwynhau diwrnod ar y maes cyn mynd adref i wylio'r goreuon gyda'r nos ar S4C. Bydd y rhaglen yn gwbl gyfoes, gan adrodd ar ddigwyddiadau'r Sioe yn gynt nag yn unman arall.

Sioe Môn

Bydd y ddwy raglen yn adlewyrchu amrywiaeth o weithgareddau'r Sioe. Yn ogystal â'r cystadlaethau dangos stoc mae cystadlaethau ceffylau, arddangosfeydd crefftau traddodiadol a physgota plu, heboga a threialon cŵn defaid. Mae hefyd neuadd fwyd sy'n arddangos cynnyrch gorau'r ynys a'r ardal gyfagos.

Byddwn hefyd yn dilyn hynt rhai teuluoedd sydd yn dangos stoc yn y sioe am y tro cyntaf a gwelwn rhai paratoadau cyn y diwrnod mawr.

Wedi Sioe Môn, bydd Mari a Morgan yn ei throi hi am ŵyl amlddiwylliannol Mela yng Nghaerdydd.

Mela

Cynhelir yr ŵyl ym Mae Caerdydd. Hon yw'r bedwaredd flwyddyn iddi gael ei chynnal ac mae'r ŵyl wedi tyfu'n aruthrol, gan ddenu 14,000 o ymwelwyr llynedd. Gair Sanskrit yw Mela sy'n golygu 'cynulliad', 'cwrdd' neu 'ffair' a nod yr ŵyl yw dathlu diwylliannau Punjabi, Pakistani, Bengali a Hindi de Asia trwy gerddoriaeth, dawns, bwyd a chelf.

Yn perfformio ar brif lwyfan Mela bydd rhai o enwau mawr y byd cerddoriaeth Asiaidd, gan gynnwys Imran Khan a'r Bombay Rockers. Bydd hefyd dawnswyr Bollywood yn camu i'r llwyfan ynghyd a dawnswyr traddodiadol eraill o Asia.

Gyda ffair, wal ddringo, stondinau a gweithdai cerdd, bydd Mari a Morgan ymhlith y dorf ac yn barod i roi cynnig ar bopeth.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales