Aled Samuel

Cyflwynydd: Aled Samuel

Ers cyn cof bron, mae diddordeb wedi bod gan Aled mewn tynnu lluniau. A hynny ar draul pob pwnc arall.

Mewn byd delfrydol, mi fyddai wedi bod yn Eglurlunydd Pensaerniiol - y bobl hynny sy'n rhoi bywyd a ffurf 3-D i gynlluniau moel y pensaer, ond oherwydd "anallu mathemateg" doedd y llwybr yna ddim yn agored iddo.

Yn ffodus doedd dim angen mathemateg i fod yn gynllunydd, ac felly wrth iddo ffarwelio ag Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda fe aeth i goleg celf Caer, i ddechrau, ac wedi cwbwlhau cwrs sylfaenol yno, ymlaen i wneud cwrs Gradd mewn cynllunio graffeg yng ngholeg Celf Casnewydd.

Wedi coleg, fe ddaeth cynnig ar swydd fel cynllunydd gyda'r Urdd yn Aberystwyth, ond fel y mae yn ei ddweud "Does na ddim cofeb i'm ymdrechion ym mhrif swyddfa'r Urdd." Wedi hynny, ddaeth y cyfle i weithio fel cyflwynydd radio a theledu i'r BBC yn y Gymraeg a'r Saesneg am ddwy flynyedd ar bymtheg.

Wedi cyfnod o waith fel labrwr gydag adeiladwr lleol, daeth yr alwad yngl?n â ‘04Wal'. Yng nhyb Aled "Allwn i ddim fod wedi cynllunio gwell rhaglen i'w chyflwyno. Cael y cyfle i grwydro yn ddi-dennyn o gwmpas rhai o dai mwya diddorol Cymru a thu hwnt. Mae rhaid imi binsio fy hun bob bore, i'm hatgoffa pa mor lwcus ‘dwi wedi bod, ac yn dal i fod."

 

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales