o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu Cymraeg
 

Bob wythnos byddwn yn eich cymryd ar wibdaith o gwmpas y tai sy'n ymddangos yn y gyfres, er mwyn i chi gael golwg fanwl ar rai o'r cartrefi mwyaf chwaethus a deniadol yng Nghymru. Bydd un ty bob wythnos yn cael sylw arbennig gan ein harbenigwr, Ann Hughes, a fydd yn egluro sut a phaham mae gweledigaeth y perchennog wedi dod at ei gilydd. Ar gyfer y tai hyn, gallwch ymweld hefyd ag adran 'creu'r argraff' er mwyn cael rhai syniadau am sut i efelychu eu steil.

Cewch eich ysbrydoli · gan y perchnogion a'u dewis o gynefin. Cliciwch ar y rhestr ar y dde i ddod o hyd i'r cartref sy'n dal eich llygaid, neu sy'n ymgorffori eich dymuniadau personol, neu sy'n cyd-fynd orau â'r lle o'ch cwmpas chi. Pwy a wyr – efallai cewch chi’r ysbrydoliaeth angenrheidiol i ddechrau gweddnewid eich cartref eich hunan!