Swît graffiti môr-forwyn
Mynedfa ac ardal fwyta ‘The Garden’
Desgiau Mini yn y dderbynfa
Swît graffiti ‘Spider-Man’
Bwyty ‘The Garden’
Swît graffiti Dwyreiniol
Swît graffiti ‘Sleep Deeply’
Dinas Athen
Rhaglen 3
Yn fras
Drws nesa i Neuadd y Ddinas, ac o fewn tafliad carreg i’r enwog Sgwâr Omonia yn Athen, mae’r Baby Grand yn un o genhedlaeth newydd o westai boutique. Y bwriad oedd creu naws Efrog Newydd yn Athen. Mae’r gwesty yn brolio wyth llawr, ac mae’r ffasâd wedi ei ysbrydoli gan bensaernïaeth neo-glasurol y 19eg ganrif.
Y Perchennog
Ddeng mlynedd ar hugain ers ei hadeiladu, y N. Daskalantonakis Group piau’r gwesty o hyd.
Hanes
Breuddwyd y Baby Grand oedd i ddod ag elfennau gwahanol dinas Athen ynghyd: ei hanes, diwylliant, dyfeisgarwch ac amrywiaeth. Roedd yn westy eisoes, ond fe’i hail-grëwyd i ddynwared steil yr Athen fodern: yn glasurol a chyfoes.
Nodweddion
Mae artistiaid graffiti adnabyddus o wlad Groeg wedi addurno’r waliau gyda chasgliad gwefreiddiol o gynlluniau amrywiol – o Spider-Man a’r Smyrffs i olygfeydd Chineaidd o raeadrau gwyllt a chopaon eira. Nid yw at ddant pawb, wrth gwrs, ond does dim byd yn ddiflas am y cynllun yma, ac mae ambell ystafell wedi ei haddurno mewn dull mwy confensiynol. Cynlluniwyd y dderbynfa ar ffurf garej, a’r desgiau yn llechu yng nghrombil dau gerbyd hen deip Mini Cooper. Mae gan y bar Champagne gadeiriau esmwyth anferth o ledr gwyn, muriau trylowy a gwydrau champagne anghyffredin.







