Golygfeydd panoramig o Marrakech
Gardd mewnol
Lle tân yn y lolfa
Golygfeydd o'r teras to
Bwâu y riad
Teras ar y to
Lolfa y swît goch
Lolfa y swît goch
Dillad gwely Mwraidd
Ystafell wely y swît goch
Rhaglen 1
Yn fras
Perl gudd yn nrysfa strydoedd cefn Medina. Agorwch y drws di-sylw sydd yn llechu ym mynwes y ddinas, ac yno mae'r Dar Darma, yn blethiad mentrus o'r hen a'r newydd.
Y Perchnogion
Mae pob un o dai Massimo Tocchetti a Dario Loccatelli yn ysblenydd, ac yn brolio nodweddion tebyg. Maent bob tro yn anferth: y nenfydau yn uchel, a golau naturiol yn llenwi'r gwaglefydd. A hwythau'n feistri PR yn yr Eidal, mae'r perchnogion yn ffafrio adeiladau o bensaerniaeth heriol, ond sydd a nodweddion cryf o'r 17eg ganrif.
Hanes
Mae blas y cynfyd yn drwm ar y Dar Darma, ble cafodd y nodweddion hanesyddol eu hadnewyddu gyda pharch a gofal, a hynny drwyddi draw. Arbedwyd elfennau gwreiddiol yr adeilad - yn nodweddion amherffaith a chyfan - gan mai dyma sydd yn gydnaws a chymeriad yr adeilad unigryw hwn. O anwybyddu'r ychwanegiadau mwy diweddar, mae trefn y tŷ yn union fel y byddai unrhyw dŷ arall ym Marrakech wedi bod bedair canrif yn ôl.
Nodweddion
Moethusrwydd, gyda blas yr Eidal a Morocco, dyma'r argraff gyntaf a gewch o'r gwesty hwn. Mae'r gorffennol yn fyw ac yn iach yma, ond gyda'r dyfodol yn treiddio i bob twll a chornel, i greu adeilad sydd a chymeriad unigryw: yn gyfforddus gyda'i hanes, ond a'i dwy lygad ar gyffro'r gorwel. Nid ar chwarae bach a grewyd yr effaith wefreiddiol yma, ac roedd adnewyddu'r adeilad yn broses hunllefus yn ôl Tocchetti. Ar un llaw roedd rhaid ail-greu yr hen ystafelloedd a oedd fel ogofau o fawr, gan gadw'n driw i'r nenfydau pren a'r murluniau 'mosaic', ac ar y llaw arall roedd rhaid glynu at ofynion y farchnad fodern, a gosod cyfarpar puro'r awyr, a thoiledau en-suite. Mae ffrwyth y llafur yn odidog, a chanlyniad y gofal a'r weledigaeth yw gwesty na welsoch ei bath o'r blaen.









