04WAL: GWESTAI'R BYD

  • Logo’r gwestyLogo’r gwesty
  • Logo’r gwesty
  • Peiriant pinbel lacr coch, drysau asgell mynedfa
  • Desg y dderbynfa
  • Coridor lacr coch
  • Cadair ‘Big Easy’ Ron Arad
  • Coridor cynllun lliwiau coch
  • Ystafell wely - arwydd dur gwrthstaen
  • Ystafell wely ‘breuddwydio’, math 1 o 3
  • Coridor – cynllun lliwiau leim
  • Cyfleusterau’r corridor – bar gonestrwydd
  • Ystafell wely dolen –math 2 o 3
  • Pengwely portwll a cwpwrdd lyfrau siap llyfrbryf
  • Coridor cynllun lliwiau piws
  • Bar Duomo – cladin pres a cadair ‘ripple’ gan Ron Arad
Italy - Duomo

Rhaglen 8

Yn fras

Lleolir y gwesty yma -yng nghanol dinas Rimini - yn glud mewn hen adeilad, ond mae'r lliwiau a'r ffurfiau yn gyfoes iawn. Mae'r prosiect yma â'i golygon ar y dyfodol, ac felly mae'n dehongli cysyniad newydd mewn lletygarwch, ac yn rhoi mwy o sylw i amgylchedd a chysur gweledol. Mae Ron Arad yn hoff o ddiffinio Hotel duoMo fel "clwb gydag ytafelloedd", gan mai'r bwriad oedd i greu nid dim ond gwesty, ond "calon sy'n curo", yn gysurus ac yn ddethol.

Perchennog

Dyma "freuddwyd wedi ei gwireddu", yn ôl Pierpaolo Bernardi, perchennog y gwesty cyffrous yma, a gynlluniwyd gan Ron Arad.

Hanes

Ardal hanesyddol Rimini yw un o brif cyrchfannau glan-môr yr Eidal, ac yno bu'r duoMo Hotel & noMi yn sefyll heb ei gyffwrdd am rai blynyddoedd, hyd nes i Ron Arad Associates gael cais i'w ail-gynllunio, fel cam tuag at ymateb i'r newid yn anghenion yr ardal, ac i ddenu clientele iau. Mewn gwirionedd, gwaith tîm sydd yn gyfrifol am greu'r gwesty yma, ond mae Ron Arad, Fabrica a sawl un arall o fyd cynllunio yr Eidal, wedi mynegi eu creadigrwydd yn llwyddiannus iawn drwy weithio cyda chyferbyniadau - drwy olau, cysgod a thryloywder.

Nodweddion

Mae'r gwesty duoMo yn ymateb i anghenion cwsmeriaid iau a bywiog gyda'i gynllunio anghonfensiynol a chyffrous. Mae'r adeilad anhygoel yma yn brolio deunyddiau amgen, lliwiau cryfion a ffurfiau anghyffredin, ac mae ei ddefnydd arbennig o olau a deunyddiau yn ei wneud yn un o'r strwythuron cyfoes mwyaf cynhyrfu


© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test