|
Ein harbenigwr Mae Ann Hughes yn gynllunydd gyda phrofiad helaeth o drawsnewid adeiladau, er enghraifft gwesty'r Harbourmaster Hotel yn Aberaeron a swyddfeydd BAFTA yng Nghaerdydd, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gartrefi, o fflatiau cyfoes i blasdai gwledig a thrawsnewid ysguborau. Bellach mae hi'n byw yn Aberdyfi â'i theulu ac yn ogystal â rhedeg ei busnes cynllunio, mae hi'n rhedeg Llety Bodfor hen dy crand sydd wedi'i drawsnewid i fod yn westy pedair-seren.
|