Tu allan y gwesty – granar wedi ei adfer
Cyntedd y Faena
Tŷ Bwyta El Mercado
Cynllun wedi ei ysbrydoli gan farchnadoedd Ewrop a llefydd bwyta Buenos Aires
Paentio Fileteado
Ardal perfformio’r Tango
Wal darlunio – murol o cyrten wedi ei baentio
Golygfa sipsi gwledig
Coridor du ac aur
Ystafell wely
Braich cadair alarch
Ystafell wely
Baddondy cyhoedd marmor llwyd
Tŷ Bwyta El Bistro – gwyn ar gwyn gyda acenion o goch ac aur
Pennau uncorn gyda llygaid coch yn syllu
Gwyn ar gwyn gyda acenion o goch ac aur
Llyfrgell y lolfa – manylion y lamp
Llyfrgell y lolfa – rhes o bennau carw gemog
Rhaglen 8
Yn fras
Yn cyfuno gorffennol enwog y ddinas gyda'i bresennol bywiog, mae'r Faena mewn cyn ysgubor hanesyddol yn ardal ddeinamig glan y dŵr yn Buenos Aires, Puerto Madero.
Perchennog
Faena Group sy'n berchen ar y Faena Hotel and Universe ac maen nhw'n datblygu eiddo fel fflatiau a thai yn ogystal â datblygu mannau cyhoeddus fel gerddi, marchnadoedd, siopau a neuaddau arddangos. Mae'r grŵp hefyd yn cynhyrchu dodrefn i'r cartref. Mae pencadlys Faena Group yn Buenos Aires.
Hanes
Agorodd Alan Faena y Faena Hotel and Universe yn ardal y dociau yn Puerto Madero, ger San Telmo. Roedd y ddinas yng nghanol adfywiad ar ôl argyfwng economaidd a gwleidyddol difrifol. Daeth Faena o hyd i ran o Buenos Aires oedd yn hollol wag. Mae'n adeilad saith llawr a chafodd ei adeiladu yn 1902 gan ddefnyddio briciau wedi eu mewnforio o Fanceinion yn Lloegr.
Nodweddion
Dyma gyd-gynhyrchiad rhwng Alan Faena a Philippe Starck. Gweithiodd y ddau yn agos iawn er mwyn gwneud yn siŵr bod hwn yn brosiect arbennig. Roedd yn gyfle i Philippe, gyda'i weledigaeth a'i athrylith, ailddehongli'r belle époque hwnnw oedd yn Buenos Aires pan gafodd yr adeilad hwn ei adeiladu ar droad y ganrif. Y ffordd orau i ddisgrifio'r mannau cyhoeddus yma yw croes rhwng ceinder Edwardaidd sydd wedi gweld dyddiau gwell a chic wledig, gyda dalenni metel a phaent yn pilio, nenfwd mowldin plastr newydd wedi ei wneud i geisio edrych yn hen, a chabinetau hynafol yn arddull y Frenhines Anne. Mae elfennau gwreiddiol yr ysgubor wedi cael eu cadw ble'n bosib. Mae'r ystafelloedd yn gyfuniad o glasurol canol canrif a chyfoes, gyda dodrefn gwyn yn arddull yr Ymerodraeth mewn amgylchedd cyfoes, gyda drychau cerfiedig yn gwneud i rywun feddwl am Fecsico drefedigaethol.

















