04WAL: GWESTAI'R BYD

  • Papur wal Colliss & QuintonPapur wal Colliss & Quinton
  • Papur wal Colliss & Quinton
  • Arwydd minimalistaidd y Lolfa
  • Ystafell tri
  • Gwthban a chlustog Melin Tregwynt
  • Talcen flaen Edwardaidd Fronlas
  • Cyntedd y fynedfa
  • Lamplen Retro gan Colliss & Quinton
  • Ystafell dau – Cynllun binc
  • Arwydd ystafell tri a hanner
Cymru - Fronlas

Rhaglen 2

Yn fras

Gwesty gwely a brecwast ‘boutique’ yw hwn, wedi ei addasu o dŷ trefol deulawr. Mae’r nodweddion Edwardaidd yno o hyd, ond mae’r dodrefn yn gyfoes, a’r lliwiau a’r deunyddiau yn toddi i’r tirwedd. Trwy wneud hynny, mae Fronlas yn priodi’r hen a’r newydd yn effeithiol iawn.

Perchnogion

Pan aeth Eva ac Owain Huw i Landeilo am dro, doeddan nhw erioed wedi dychmygu disgyn mewn cariad â’r lle, ac agor gwesty gwely a brecwast yno. Mae Fronlas yn ddramatig ac yn unigryw, ond yn cadw’n driw i egwyddorion eco-gyfeillgar y cwpl a’i creodd. Mae’r gwesty'n cymryd ei le yn ddi-lol yn ardal Cwm Tywi a Bannau Brycheiniog, ac aeth Eva ac Owain at y tirwedd am ysbrydoliaeth wrth ddewis lliwiau. O ganlyniad i hyn oll, mae Fronlas yn gyfoes a gwreiddiol, ac yn apelio at bob oed.

Hanes

Mae'r adeilad yn dyddio o 1901, ac fe'i addaswyd yn westy yn 2007. Agorwyd drysau Fronlas - sef yr enw gwreiddiol - yn 2008.

Nodweddion

Mae cyffyrddiadau cartref a rhyngwladol i'w canfod yn Fronlas. Mae'r ‘stafelloedd yn frith o gynnyrch Alessi, Kartell a BoConcept, yn ogystal â brethyn Melin Tregwynt, dodrefn Angela Gidden o Attic 2 yng Nghaerdydd, mygiau Keith Brymer Jones a matresi organaidd o Abaca, gaiff eu cynhyrchu dafliad carreg o dre Llandeilo. Mae'r ystafell fwyta yn brolio cadeiriau ar steil Arne Jacobsen o'r 50au, yn ogystal â ffotograffau gan y cyd-berchennog, Owain Huw, o olygfeydd Cymreig enwog.

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test