• Y tu allanY tu allan
  • Y tu allan
  • Y tu allan
  • Siafft lifft a bwyty
  • Hesperia gyda
  • Mynedfa gyda
  • Bar achlysurol
  • Rhaniad bambŵ
  • Atriwm y bar achlysurol
  • Atriwm y bar achlysurol a grisiau
  • Golau
  • Golau
  • Golau
  • Bwrdd a chadeiriau yn y lobi
  • Celfwaith wydr yn y lobi
  • Cromen coronog Gwesty
  • Golygfeudd panoramig o Barcelona o
Sbaen - Hesperia Tower

Rhaglen 6

Yn fras

Cynlluniwyd y gwesty gan Richard Rogers, ac mae'n nodwedd amlwg ar nenlinell newydd Barcelona.

Pensaer

Mae'n amlwg mai gwaith y pensaer Richard Rogers yw hwn, ar y cyd gyda'r penseiri lleol Alonso-Balagauer, ac nid yw'r Hesperia Tower yn ceisio cuddio ei gyfleusterau, gan amlygu'r lifftiau a'r grisiau tân. Mae Richard Rogers yn enwog am adeiladau blaengar fel y Centre Pompidou ym Mharis, prif swyddfa Lloyd's yn Llundain, Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg, a Senedd Chynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth gwrs, a gynlluniwyd gan ei bractis pensaerniol.

Hanes

Bu agoriad y Hesperia Tower yn 2006 yn gyfraniad anferth i drawsnewidiad trefol ardal y L'Hospitalet de Llobregat, Barcelona.

Nodweddion

Mae Rogers yn enwog am ei hoffter o'r strwythr allsgerbydol, ac mae'r trawstiau strwythurol a beintiwyd yn goch yn drawiadol iawn yma. Mae'r cynllun yn gosod y lifft a'r tyrrau gwasanaethu tua ymyl yr adeilad, fel ‘gwagleoedd gweini', tra bod lloriau is y tŵr 30 llawr yn wagleoedd i'r cyhoedd. Mae'r cynllunwyr mewnol  GCA  wedi parhau'r naws gyfoes yn yr ystafelloedd gwely, ond gyda gweadau moethus melfed, sidan a lledr, wedi eu cyfuno â lliwiau a fyddai'n gweddu'n berffaith i Glwb Bonedd. Cyfunwyd pren tywyll sgleiniog gyda deunyddiau meddal mewn lliwiau gwyrdd tywyll, coch tywyll ac aur, a'r unig nodwedd (nodyn i Meins - nid external, ond extraneous sydd yn y Saesneg. Angen gair mwy addas. LW)  yw'r crisialau sydd yn crogi  uwchlaw'r gwely.

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales