Y Lobi
Y dderbynfa
Gwaith celf Bwyty Moo
Bwyty Moovida
Lolfa lyfrau
Golygfeydd o Casa Milà Gaudi
Ffasâd y gwesty
Casa Milà Gaudi
Goleuadau'r lobi
Golygfa'r ardd o Bwyty Moo
Eisteddle'r perimedr
Rhaglen 1
Yn fras
Cynlluniwyd Hotel Omm gydag un bwriad: cynnig cyfle i ymlacio. Daw'r enw o'r mantra "Ommmmm", a ddefnyddir wrth fyfyrio, a dyma hanfod yr adeilad yn wir - gwagle i feddwl ac i fod yn dawel ynddi. Does dim gwaith celf ar furiau'r lobi, gan fod symlrwydd y cynllun yn gelfyddyd ynddo'i hunan.
Cynllunwyr
Mae Sandra Tarruella a Isabel Lopez yn disgrifio Hotel Omm fel bwyty gyda gwesty. Eu bwriad oedd cynllunio adeilad a fyddai'n gysurus i gwsmeriaid, ond ar yr un pryd yn rhoi argraff o ddinas gyfoes Barcelona a'i symlrwydd onglog.
Hanes
Ers iddo agor yn 2002, bu sêr roc, actorion a phenseiri yn heidio i Hotel Omm, er mwyn osgoi gwestai fel y Ritz, sydd - yn eu t?b nhw - ychydig yn ‘amlwg' a hen ffasiwn bellach.
Nodweddion
Adeiladwyd Hotel Omm gan ddefnyddio deunyddiau crai a steil traddodiadol: ‘facades' o garreg, balconi i'r stryd a iard fach tu mewn. Ond cynllun ymarferol yw hwn, diolch i bensaerniaeth blaengar a chyfoes. Mae'r ffenestri ar ongl, i gadw preifatrwydd y cwsmeriaid ar un llaw, ond i ganiatau ffrydiau o oleuni naturiol ar y llaw arall. Mae'r ‘stafelloedd yn frith o nodweddion ffynci; yn syml ac eto'n gysurus. Mae'r cysyniad ei hun yn un digon syml: llinellau glân, balans gofalus o liwiau a defnydd helaeth o ddeunyddiau naturiol, heb or-wneud yr addurno.
Mae Hotel Omm yn aelod Design Hotels.










