Ystafell wely cyfoes
Sedd bwth y bar
Ffasâd y gwesty
Sinc y baddondy
Y Sezz ar y seize
Silff a cherflun ceramig
Y Lobi
Y Bar clos
Rhaglen 2
Yn fras
Ar lan yr afon Seine, gerllaw y Tŵr Eiffel, ac wedi ei guddio rhag llygaid y teithiwr talog, mae creadigaeth ddramatic Christophe Pillet yn llechu tu ôl i façade draddodiadol. Ond o gamu trwy ddrysau Hotel Sezz, mae'n amlwg yn syth nad oes dim oll yn draddodiadol am y tu mewn...
Perchennog
Breuddwyd Shahe Kalaidjian oedd i greu ‘waw-ffactor', lle y byddai ei gwsmeriaid yn cael profiad cwbwl unigryw mewn gwesty sydd ar un llaw yn teimlo fel ymweliad a thy ffrind, ond sydd hefyd yn cynnig sypreis, fel petaech yn canfod am y tro cyntaf fod eich cyfaill yn meddu ar chwaeth heb ei ail.
Hanes
Hawliodd Pillet cyn-westy Best Western mewn arrondissement cysglyd ymhell o dwrw dinesig Paris, a'i droi'n meca i'r rhai sydd yn chwilio am brofiad steilish heb ei ail.
Nodweddion
Dydi o'n fawr o syndod i ganfod fod pob ystafell yn Hotel Sezz wedi ei chynllunio gyda'r gofal mwyaf a sylw manwl i bob celficyn, lliw a defnydd. Mae'r canlyniad yn tu hwnt o chic. Lliwiau oren, gwyrdd a choch sydd yma yn bennaf, ac mae ychwanegolion personol Pillet yn gorffen yr edrychiad i'r dim, gyda'r soffa ledr, y ddesg a chadair ‘mock-croc', a'r bwrdd siap loshinen yn perffeithio'r ddelwedd. Mae pob llofft yn brolio gwely yng nghanol y gwagle, sy'n rhoi rhyw deimlad o brynhawn rhamantus i gariadon yn hytrach na lleoliad i gynnal cynhadledd waith. Ac yn ben ar y ddelwedd ychydig yn risqué, mae wal gwydr rhwng y prif wagle a'r tŷ bach, fel bod modd gwylio'r gawod o'r gwely. Efallai na ddylech rannu ystafell gyda chyd-weithiwr wedi'r cyfan. Nid creu delwedd gyflawn oedd y bwriad yn Hotel Sezz, ond i roi mwy nag un steil at ei gilydd, gyda chwaeth ac ysbryd unigryw i glymu'r cyfan ynghyd.
Mae Hotel Sezz yn aelod Design Hotels.







