Derbynfa enfawr
Y dderbynfa – blaen gwydr crwm
Y cyntedd – cadair eistedd Proust gan Alessandro Mendini
Llyfrgell – soffa ‘Boa’ gan y Brodyr Campana, a cadair esmwyth Gaetano Pesce Feltri
Wal wedi ei argaenu gan ‘wenge’ a cadair eistedd ffelt gan Gaetano Pesce Feltri
Y soffa ‘Boa’ - manylion y felfed amryliw
Y cyntedd ‘Wall’ – wal o wirodydd
Waliau crwm y corridor a goleuadau pensaernïol
Cadair tiwbaidd retro wedi ei ail-gylchu
Lolfa enfawr y swît arlywyddol
Ystafell wely y swît arlywyddol a wal argaen ar osgo
Ystafell wely – gwydr barugog, goleuadau a teledu amlswyddogaethol
Baddondy y swît arlywyddol – ffenestr sy’n tynnu’n ôl
Y teras – pwll mosaig coch a golygfeydd o São Paolo
Pwll y bar ar y to, teras, a gwlau
Rhaglen 12
Yn fras
Gwaith celf trefol, tirnod pensaernïol a chyfeirnod byd eang mewn cynllunio gwestai. Wedi ei gynllunio gan Ruy Ohtake, y pensaer enwog o Frasil, mae Hotel Unique yn amlwg yn nhirlun y ddinas. O'r dewis gofalus o wrthrychau addurno i'r esblygiad yn y cysyniad o wasanaeth, mae popeth wedi ei greu er mwyn eich rhyfeddu. I fod yn wahanol. I fod yn unigryw.
Perchennog
Y perchennog Jonas Siaulys ddaeth a'r gwesty pum seren i São Paulo fel tirnod a symbol o'r ddinas yn y mileniwm newydd. Roedd Siaulys eisiau mwy nag eicon pensaernïol. Roedd hefyd yn gobeithio creu cyfeirnod ar gyfer cynllunio gwestai.
Hanes
Yn wreiddiol, roedd y perchennog Jonas Siaulys am droi'r 6,000 metr sgwâr o dir yn ganolfan siopa foethus. Sawl sgwrs ac ambell i arolwg yn ddiweddarach, sylweddolodd y grŵp o fuddsoddwyr nad oedd angen canolfan siopa arall ar São Paulo. Beth oedd ei angen ar y ddinas oedd gwesty o'i statws ei hun: cosmopolitan, digymar, unigryw. Derbyniodd Ruy Ohtake, oedd wedi cael gwahoddiad i gynllunio'r ganolfa siopa, yr her newydd a chyn hir dechreuodd ar yr y gwaith. Roedd hyn yn 1999.
Nodweddion
Sbectrwm wedi ei goreograffu'n ofalus o gylchoedd a sgwariau, elipsau a siapiau'n llifo i mewn ac allan o'i gilydd. Dyma yw iaith cynllunio'r Unique - yn cael ei feddalu gan loriau pren, dodrefn gwyn llyfn a byrddau a gosodiadau gwydr tryloyw. Mae darnau anghyffredin wedi eu casglu o bob man yn y byd yn pwysleisio'r cysyniad hyd yn oed ymhellach. Mae'r ystafelloedd, sy'n gyfuniad o fanylion hi-tech ac elfennau naturiol yn cynrychioli modernedd hynod o cŵl.














