 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|

Pan yn meddwl am gartrefi ganol dinas, fel arfer byddwn yn meddwl am derasau o dai unwedd "dwy i fyny, dwy i lawr". Fodd bynnag, mae dihangfa moethus John a Jackie Lloyd Jones yng Nghaerdydd yn eithriad. Mae hwn yn dy ar wahân o oes Edward VII, sy'n chwaethus a llawn ceinder. Ar y tu fewn ceir ystafelloedd uchel, â ffresgos mentrus a swn piano'n cael ei chwarae'n gain. I ychwanegu at y teimlad hanesyddol mae soffas meddal lledr, ffenestri lliw prydferth a mowldinau gwreiddiol, a chewch faddeuant am feddwl eich bod wedi camu nôl ganrif neu ddwy i'r gorffennol. Ond fel gwrthgyferbyniad, mae'r perchnogion wedi rhoi poptai newydd o ddur gloyw di-staen, dodrefn clasurol a gweithiau o gelf fodern yn y ty. Felly, yn hytrach nag edrych fel amgueddfa sych, mae'r cyfan yn ymddangos fel campwaith personol, wedi'i grefftio'n ofalus.
Un rhan o'r ty sy'n sefyll allan yw'r brif ystafell wely, sydd â phapur wal o sidan, ystafell wisgo â digon o le, a balconi ar gyfer awyr iach. Mae'n gyfoes ac yn gyffyrddus, a byddai un yn ddigon bodlon dreulio'r diwrnod cyfan ynddi. Fodd bynnag, efallai byddai eraill yn cael eu syfrdanu'n fwy gan y garej ddwbl gyda'i siandelïers a cheir a'u platiau rhif yn gweddu iddo ef ac iddi hi!
|
|
|
 |
 |
|
|