o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu Cymraeg
Os ydych yn meddwl am eiliad am ba fath o dy byddai cyfarwyddwr theatr yn dewis byw ynddo, efallai byddech yn dychmygu cartref llawn waliau llachar ac addurniadau rhyfedd, silffoedd llawn llyfrau a sgriptiau - ty sydd wedi’i drwytho gydag ysbryd byd y theatr.
dummy main image
Dummy small image alt text

Fact file

perchenogion: Tim Baker
lleoliad:
Yr Wyddgrug
steil:
Ty o’r 30au wedi ei ysbrydoli gan Japan
nodwedd gorau:
Y dull o hongian lluniau ar y wal


Ond pan welwch chi dy Tim Baker, Cyfarwyddwr Cydymaethol Clwyd Theatr Cymru, bydd y syniadau ystrydebol hyn yn cael eu rhoi i’r neilltu. Mae’r ty hwn yn olau, yn llawn gofod ac yn rhydd o annibendod. Mae Tim ei hunan yn dweud "Mae’n dy syml iawn. Wrth gael gwared ar y waliau, mae’r syniad o ystafelloedd yn diflannu, ac rwy’n byw mewn gofod. Y peth allweddol yw i fyw’n syml mewn heddwch, yn hafan fy hunan."

Mae Tim yn edmygu ffordd o fyw pobl Japan ac mae’n hoff o bopeth sy’n dod o’r wlad. Mae’r hoffter hwn yn amlwg yn ei dy, gyda’r pwyslais ar greu gofod, ac ar ei ddefnydd o ddeunydd naturiol, yn enwedig pren.

Mae gan Tim hefyd angerdd am fwyd, ac mae’r ardal goginio yn cynnwys rhywbeth digon anghyffredin – barbeciw, a fyddai i’w weld fel arfer yn yr ardd.

Lawr llawr mae gan yr ardal agored lliwiau niwtral, tawelol, gydag amrywiaeth o liwiau llwydwyn. Ond ewch lan lofft a fe welwch fod digon o liw yn y ty. Lliw terracotta sydd ar ardal pen grisiau, ac edrychwch yn y brif ystafell wely a fe welwch chi waliau gwyrdd llachar.

Ond hyd yn oed gyda’r defnydd yma o liw, mae ’na drefn. Yn y brif ystafell wely, mae’r lluniau sy’n wynebu’r gwely yn creu grid sy’n adlewyrchu’r patrwm ar y duvet aml-liwiog.

Honna Tim fod hwn yn ddamweiniol, "ond hap a damwain sy’n gyfrifol am rai o’r pethau gorau mewn bywyd!"