Mae clom, sef cymysgedd o dywod, graean a chlai, yn ddefnydd adeiladu traddodiadol. Fe benderfynodd Steve Wilson ei ddefnyddio ar gyfer estyniad newydd ei gartre yn Sir Benfro gan ei fod yn meddwl ei bod hi'n bwysig cadw popeth mor naturiol â phosib "a gadael i'r adeilad anadlu."
perchenogion: Steve Wilson lleoliad: Mathri
steil: Estyniad clom i fwthyn traddodiadol
nodwedd gorau: Y defnydd o dechnegau ecolegol
Mae'n amlwg fod y gwenoliaid lleol yn cytuno gan fod nyth wedi ymddangos ar do mewnol yr estyniad, wedi ei gwneud o glom. Roedd Steve wedi cymysgu peth ac wedi ei adael o flaen yr adeilad, ac felly fe fanteisiodd yr adar ar y sefyllfa!