Mae straeon y brodyr Robat a Tomi, ar chwiorydd Hafwen a Sian Teleri yn cael eu hadrodd yn yr un rhifyn o 04 Wal. Nid yn unig bod y ddau frawd wedi priodir ddwy chwaer, ond bellach mae nhwn byw o fewn 500 llath iw gilydd ym mhentre Sarn ger Pwllheli. Mae nhw wedi llwyddo i greu cartrefi cyffyrddus tran dal gafael ar eu naws draddodiadol.
perchenogion: Hafwen & Robat Hughes
lleoliad: Sarn, Pwllheli steil: Traddodiadol a chwaethus nodwedd gorau: Ail ddefnyddio'r pren or hen gapel drws nesa
Mae wedi cymryd 11 o flynyddoedd i Hafwen a Robat i ailwampiou ty sydd bellach yn gartref clyd, croesawgar iddyn nhw au tri o blant. Roedd ganddynt ddau adeilad i ddechrau un a oedd yn cynnwys siop y pentref ac un a oedd yn llety i ymwelwyr dros yr haf.
Canol eu cartref ar ei newydd wedd ywr gegin, sydd yn eich wynebun syth pan yn agor y drws ffrynt. Gydar ffwrn Aga yn creu teimlad cynnes, ar gwaith pren cain o gwmpas yr ystafell, does dim rhyfedd mai hon yw hoff fan Hafwen. Mae Robat yn saer a fe weithiodd ar y gegin ei hunan, gan ddefnyddio pren o hen gapel lleol.
Meddai Hafwen "Mae gan y ty argraff gryf y ddau ohonom. Rydym yn hapus iawn yma a byddwn i byth eisiau symud o ma."