o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu Cymraeg

Oherwydd bod ganddyn nhw berthynas gryf, ddeallus gyda’u pensaer, roedd Jim O’Rouke a’i deulu yn gallu gwireddu eu breuddwyd ar y darn arbennig o dir yr oeddent wedi’I brynu yn Aberystwyth, gyda golygfeydd dros Fae Ceredigion. Yn wreiddiol roedd eu cynllun yn galw am baneli gwydr mawr, ond yn y pendraw fe ddefnyddiwyd ffenestri llai, gyda phob un wedi’i leoli i gynnig golygfa syfrdanol wahanol. .

 

Fact file

perchenogion: Jim & Helen O’Rourke
lleoliad:
Aberystwyth
steil:
Cyfoes ond gartrefol
nodwedd gorau:
Y gegin – a’r ffwrn stem

Enlarge

Experts opinion
Fel mewn nifer o gartrefi, calon y ty yw’r gegin fawr. Adeiladwyd hon gan grefftwyr lleol gan ddefnyddio pren lleol. Ceir yma’r offer diweddaraf a fyddai’n addas ar gyfer cogydd proffesiynol, gan gynnwys ffwrn stêm gyfoes. Mae’r arwynebau gweithio wedi’u cynhyrchu allan o gymysgedd o Corian cadarn a gwenithfaen sgleiniog.

Mae nifer o ystafelloedd bychain wedi’u cysylltu â’r gegin, pob un â’i swyddogaeth ar adegau gwahanol o’r dydd. Mae un yn conservatory heulog, gyda balconi mawr ei hunan, tra bod un arall yn fwy cynnes ac yn fwy addas ar gyfer ymlacio yn y noswaith.

I gyd-fynd â’r defnydd o ddeunydd naturiol, mae’r lliwiau cryfion yn ychwanegu bywiogrwydd i’r cyfanwaith. Mae’r lliwiau coch cyfoethog yn gwneud i’r ardaloedd byw deimlo’n gynhesach, ac mewn gwrthgyferbyniad mae’r lliwiau glas lled-oer yn ymlacio un yn yr ystafelloedd gwely.

Nodweddion eraill sy’n allweddol i’r cynllun yw’r ffordd mae’r lloriau ar lefelau gwahanol, y nenfydau uchel ar ongl a system sain gynhwysol, rhywbeth sy’n hawdd i’w cynnwys mewn adeilad newydd.

Mae’r ty felly yn enghraifft arbennig o beth sy’n gallu dilyn o gyfathrebu da rhwng y pensaer a’i glient. Y canlyniad yw cynllun unigryw syfrdanol sy’n ymarferol ac yn gallu ateb gofynion teulu ifanc.

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail