o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu Cymraeg

O’r tu allan mae hwn yn edrych fel ty teras arferol o oes Victoria, ond ar y tu-fewn fe welwch gynllun sy’n ‘kitsch’ ac yn hwyl. Ni fyddwn yn synnu i weld Doris Day yn cerdded o gwmpas fan hyn yn gwisgo ‘pinny’! Mae un yn cael y teimlad yn syth bod Cludfan yn perthyn i bobl greadigol, ac mae gan y cwpl sy’n byw yma, Wyn a Linda, ddiddordeb mewn cynllunio mewnol a chefndir mewn Celf a Ffotograffiaeth.

 

Fact file

perchenogion: Wyn & Linda Davies Williams
lleoliad:
Gorslas
steil:
Cartref lliwgar a llawn dychymyg
nodwedd gorau:
Y silffoedd yn y stafell eistedd

Enlarge

Experts opinion

Fe ddyfeisiodd y cwpl yr olwg arbennig gyda chymorth Cath Kidston – arbenigwraig ar y 50au sydd bellach yn dosbarthu’i chynlluniau, o ddefnydd ac o dlysau, ar draws y byd. Mae Wyn a Linda yn bâr talentog ac maent wedi llwyddo i gael y ty i edrych yn union sut roedden nhw eisiau – camp sy’n anoddach nag y byddwch yn meddwl. Mae’n rhaid i’r cynllunwyr fod yn bwyllog a dal nôl ychydig i osgoi creu cybolfa sydd dros ben llestri.

Gan ddefnyddio lliwiau niwtral ar y waliau a dewis y celfi yn ofalus (er enghraifft y gadair dryloyw) mae golwg y ty yn un ysgafn, olau. Tynnir sylw at y lliwiau llachar trwy eu defnyddio yn yr eitemau sy’n addurno’r ystafelloedd, sy’n creu golwg nodweddiadol o’r 50au.

Byddai rhai elfennau yn edrych yn dda mewn unrhyw fath o ystafell, er enghraifft y silffoedd sy’n edrych fel tyllau colomennod (ceir rhywbeth tebyg yn Ikea). Dewiswyd y darnau mawr traddodiadol, er enghraifft y candelabra mawreddog, fel eu bod yn wrthgyferbyniad â llinellau plaen celfi’r 50au.

Mae’r gegin/ystafell fwyta fawr yn feithrinfa arbennig ar gyfer partïon, sy’n dueddol i ledaenu allan i’r decking tu-fâs. Yna mae hyd yn oed y sied ddiymhongar wedi’i throi’n nodwedd ddiddorol gan got o baent bastel.


Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail