o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu Cymraeg

Nid yw rhai tai ond brics a mortar - cysgod oddi wrth y byd y tu allan. Fodd bynnag y mae cartref Dylan, Carys a’i mab Llywelyn o’r ail ganrif ar bymtheg yn llawer mwy na hynny. Yma, yng nghanol cefn gwlad hyfryd Dolwyddelan, o fewn i ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, y mae eu cartref yn llawn cymeriad, nodweddion cyfnodol a hanes.

 

Fact file
perchennog: Dylan Bryn Roberts
lleoliad: Gwynedd
steil: Cartref carreg nodweddiadol o’r ardal gerllaw afon dlos
nodwedd gorau: Y llefydd tân hynafol sy’n eich swyno.

Enlarge

Experts opinion
Wedi dianc o ffrwst a ffwdan bywyd dinesig Caerdydd, darganfu’r teulu'r cartref o feini cadarn, gyda llefydd tân mawr, agored, trawstiau pren trwchus a’r lloriau pren gwreiddiol. Fel gyda’r cynlluniau gorau, y gegin - gyda’i gypyrddau gwyrddlwyd, llenni blodeuog, llorlechi a bwrdd mawr hir ar gyfer dathliadau teuluol - yw calon y cartref.

Y mae’r lle byw yn glud ac yn fan i ymlacio ynddo, gyda’i soffas mawr, meddal, ei loriau pren brown golau a fflamiau tân go iawn yn taflu’u cochni yn y cefndir. Y mae naws hamddenol hyfryd yn perthyn i’r tŷ sy’n cyfuno defnyddiau naturiol, dodrefn cadarn, lliwiau golau esmwyth, ac, wrth gwrs, golygfeydd bendigedig o bob ffenestr.

Mae’r llofft yn debyg, gyda dodrefn syml yn yr ystafelloedd gwely, ac ystafell Llywelyn yn llond teganau, llyfrau a’r math o bethau a welir yng nghuddfan crwt bach.

Ond dichon mai’r lle tân agored, crand, a llewyrch y canhwyllau sy’n ychwanegu arbenigrwydd i bob cilfach yn y cartref hwn. Ydyw, mae hwn yn gartref i’ch denu - ac yn creu ynoch yr awydd i aros, ddydd ar ôl dydd!

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail