 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
Ar ôl astudio i fod yn bensaer, dychwelodd John i Batagonia lle sicrhaodd gomisiynau gan y llywodraeth a gwaith yn y sector preifat, ac yn fuan roedd wedi ennill enw da i’w hunan. Roedd yn edmygu penseiri cyfoes fel Alvar Aalto o’r Ffindir a James Stirling o’r Alban, ac yn debyg i ddyn nhw, mabwysiadodd John steil rhydd, a oedd yn cynnwys mwy o ffenestri gan adael mwy o olau i mewn i’w adeiladau.
Y tŷ cyntaf a gynllunioddoedd ei gartref ei hunan: tŷ syml, gyda brics coch a waliau gwyn ar y tu allan. Roedd y ffaith fod y plot yn hirsgwar yn dylanwadu ar gynlluniau John, gan beri iddo greu tŷ hir a chul. Meddai John mai pwrpas y coridor hir, cul ar y llawr gwaelod yw i atgoffa un o long – ac, fel mewn llong, nid oes canllaw i'r grisiau sy’n arwain lan lofft.
Nid yw John erioed wedi ystyried symud o’r tŷ, gan egluro mai’r ffordd Archentaidd yw i adeiladu cartref am oes ac aros yna.




|
|

|
 |
 |
|
|