o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu Cymraeg

Mae’r byngalo enfawr hwn yn ymestyn dros dwy lain o dir , gan gynnwys llain gornel, ond gyda’i gynllun unigryw gan y pensaer John Humphreys, Archentwr o dras Cymreig, mae’r adeilad yn llenwi’r bwlch yn hyfryd. Ar y tu mewn, mae’r ystafelloedd yn llifo i mewn i’w gilydd, ac mae Aled yn teimlo’i hunan yn cael ei dynnu i mewn i’r lolfa enfawr agored, sydd â digon o le i ffrindiau i ymlacio ynddi a drysau sy’n arwain allan i’r ardd.

dummy main image
Dummy small image alt text

Fact file
pensaer: John Humphreys
lleoliad: Trelew, Patagonia
steil: Ty "dros ben llestri" yn ôl y pensaer
nodwedd gorau: Nenfwd y lolfa sy’n pefrio gyda goleuadau halogen bychan


Mae gan y lolfa nifer o nodweddion sy’n dal eich llygaid, a’r mwyaf hynod yw’r lle eistedd gyffyrddus o dan nenfwd sy’n pefrio â dwsinau o oleuadau bychain. Meddai Aled fod hwn yn edrych fel rhywbeth allan o’r Starship Enterprise ! Eglura John fod y lle wedi’i suddo i mewn i’r llawr fel bod llygaid y gwesteion ar yr un lefel â’r ardd, fel eu bod yn teimlo’r ardd yn dod i mewn i’r lolfa.

Dywed John mai’r ystafell bwysicaf mewn tŷ yn yr Ariannin yw’r gegin / ystafell fwyta, ac mai’r nodwedd bwysicach fan yma a yw’r asado – rhywbeth hanfodol mewn unrhyw dŷ yn y wlad. Gridyll ar gyfer coginio cig yw hwn, gyda digon o le arno ar gyfer anifail cyfan, oherwydd nid yw’r Archentwyr sy’n hoffi bwyta cig yn fodlon cyfaddawdu!

Mae’r prosiect hwn wedi dod i raddau yn llafur cariad i John, sydd wedi bod ynghlwm wrth y cynllunio ers dros ddeng mlynedd. Yntau sydd wedi bod yn gyfrifol am bob agwedd o’r cynllun, a gellir gweld yn syth wrth edrych ar safon yr adeiladu ei fod wedi gweithio’n galed i sicrhau bod pob manylyn o’r byngalo yn berffaith. Yn wir, does dim llawer wedi newid yn y cynlluniau ers gweledigaeth wreiddiol John, ac wrth iddo gwblhau’r prosiect a throsglwyddo allweddi’r tŷ i’r perchenogion, meddai ei fod ychydig yn drist. Dydi hwn ddim wedi bod yn dŷ rhad i’w adeiladu, ond gellir gweld yn union lle mae’r arian wedi mynd.