 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|

Gyda'i leoliad delfrydol yn edrych dros Fae Ceredigion, mae cartref Alun a Linda Ceri Jones yn cynnig man berffaith i deulu ifanc fyw a gweithio. Mae'n dy Sioraidd â lliw gwyrdd golau ar y tu-allan, a chyfres o ystafelloedd amryliw ar y tu-fewn. Mae'r cyntedd yn las galchog, y lolfa'n goch gwaedlyd, a'r gegin yn wyrdd fel deilen - y cyfan yn wrthgyferbyniad iachus i'r obsesiwn cyfoes o gael lliwiau gwan, amhendant. Mae'r cyfan yn cynnig cefndir i arddangos dodrefn hen a chyfoes Alun a Linda. Y gegin yw gwir galon y cartref: ystafell llawn golau â ffenestri tal, prydferth sy'n edrych dros yr ardd fawr, a chydag unedau syml semi-fitted a Rayburn ar gyfer y coginio. Hon yw ystafell brysuraf y ty, ac mae'r bwrdd cinio yn ddelfrydol i gasglu'r teulu ynghyd, neu i ddiddanu gwesteion, neu fel man i'r plant wneud eu gwaith cartref.
Mae rhinweddau gwreiddiol eraill yn ychwanegu at swyn y cartref: y llawr parquet, y bwâu gothig, a'r grisiau crwm rhagorol sy'n ffrydio â golau naturiol, diolch i'r 'simnai golau' uwchben. Fodd bynnag, yn fwy na'r harddwch pensaernïol a'r cymesuredd campus, gwir brydferthwch y ty yw ei fod yn gartref go-iawn i'r teulu. Yn nhy Alun a Linda, caiff y dodrefn eu defnyddio; mae'n bosibl cyffwrdd â'r hen addurnau gwerthfawr, ac mae pawb yn gallu ymlacio a mwynhau'r golygfeydd hyfryd.
|
|
|
 |
 |
|
|