o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu Cymraeg
"Rwy'n gweithio fel cyhoeddwr llawn amser gydag S4C, swydd ro'n i wastad ishe'i wneud, sy'n golygu fy mod yn teithio can milltir bob ffordd i fy ngwaith. Rwy'n fodlon ei wneud oherwydd dyma'r tþ perffaith i ni."

Mae pump o blant gan Alun a'i wraig Linda - Daniel (16), Padrig (12), Sera (11), Wil (9), ac Anna (5). Roedd chwilio am dþ a fyddai'n ateb eu hanghenion felly yn dipyn o dasg. Roeddent wedi bod yn chwilio am ryw dair blynedd cyn dod ar draw plasty bychan mewn pentref gwledig ger glan y môr, a oedd unwaith wedi bod yn westy.

"O'n i wastad ishe byw yng nghefn gwlad," meddai Linda, "Dwi byth wedi bod yn city girl er fy mod wedi fy ngeni a'm magu yng Nghaerdydd. Dwi'n hoff iawn o Gaerdydd ond roedd chwant gen i fyw rywle a oedd yn fwy gwyrdd, wrth ymyl y môr. Wy'n hoff iawn o'r môr. Doedden ni ddim yn rhedeg bant o bob dim yn y brifddinas. Roedden ni ishe gwella ein bywyde bob dydd, a chael profiad o ffordd arall o fyw."

Mae'r ddau yn credu fod ffawd wedi eu harwain at eu cartref newydd. "Mi wnaethon ni ffeindio fe yn syth heb unrhyw drafferth," meddai Alun. Ac yn ôl Linda, roedd hi'n gwybod yn syth mai hwn oedd y tþ iddyn nhw. "Roeddwn i'n gweld fu hunan yn byw yma, roedd teimlad hamddenol, heddychlon yn perthyn i'r lle."

Mae'r tþ yn dyddio nôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae dylanwad y cynllunydd amlwg John Nash i'w weld arno. Nid Nash ei hun a gynlluniodd y tþ ond mae'n debyg fod adeiladwr oedd wedi bod yn gweithio ar un o gynlluniau Nash yn Llannerch Aeron, wedi picio draw i weithio ar y tþ yma hefyd.

Roedd yn westy am ddeugain mlynedd cyn cael ei drawsnewid gan y person wnaeth werthu'r tþ i Alun a Linda. Mae'n gyffyrddus, yn llawn golau, ac yn hynod o liwgar. "Doedd dim rhaid i ni newid unrhyw beth y tu mewn i'r tþ, er fy mod wedi gwneud llawer o waith y tu fas, yn clirio ac yn torri coed ac ati. Roedd y lliwiau a ddefnyddiwyd gan y perchennog blaenorol y tu fewn i'r tþ yn rhai y byddwn ninnau wedi eu dewis," meddai Alun.

I lawr grisiau, mae'r ystafell werdd yn draddodiadol Gymreig, yn arddangos nifer o gelfi a etifeddwyd ganddynt. Mae'r parlwr pinc, ar draws y cyntedd, fodd bynnag, yn gybolfa o liw a golau. Mae steil Regency neu Sioraidd y tþ yn caniatáu i bob math o ddylanwadau traddodiadol a chyfoes gael eu cyflwyno yno.

Mae'r plant wrth eu boddau gyda'r tiroedd eang o amgylch y tþ - lle gwych i fwynhau anturiaethau di-rif yng nghanol y coed. "Mae digon o le i chwarae yma ac rydym yn gwybod eu bod nhw'n saff", meddai Linda.

Mae'r teulu wedi hen setlo yn eu plasty trawiadol, ac yn mwynhau bywyd yng nghefn gwlad. Tra bod Alun yn sicrhau fod gwylwyr S4C yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni'r dydd, mae Linda yn gweithio ar ei liwt ei hun yn y maes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, a hynny o'i swyddfa fawr yng nghefn y tþ.
"Rydym ni'n gallu cael mwy o gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yma," meddai Linda.
nôl ...