Boulangerie y 19ed ganrif wedi ei thrawsnewid
Addurniad y 19ed ganrif
Hen arwydd siop
Cornel darllen
Murlun Lacroix
Y lobi
Murlun yn y caffi
Y bar-caffi traddodiadol Ffrengig
Seddi amryliw
Cadair "Little Tulip" gan Pierre Paulin
Carped smotiau crynion ar y grisiau
Murlun yn yr ystafell wely
Lluniau o gasgliad personol Lacroix
Sgrinau ffenest
Drych yn un o'r ystafelloedd wely
Rhaglen 5
Yn fras
Prynwyd yr adeilad yn 2003 gan Nadia Murano a'i gŵr Denis Nourry, ac fe gwblhawyd yr adferiad o fewn dwy flynedd. Mae'r disgrifiad ‘gwesty cynllun' ar ei fwyaf llythrennol yn y gwesty yma. Cynlluniwyd yr addurno mewnol gan y cynllunydd ffasiwn Christian Lacroix. Crewyd yr 17 ystafell mewn amrywiaeth o steiliau, gan gynnwys Baroc, ‘sci-fi' a Scandi-gyfoes. Lleolir y gwesty yn ardal Haut-Marais, ble mae'r diwydiannau ffasiwn a chynllunio yn tyfu a datblygu.
Cynllun mewnol
Gwisgwyd Hôtel du Petit Moulin yn drawiadol gan Lacroix, yn ei brosiect cyntaf fel cynllunydd mewnol. Gallai fod wedi canfod ei hun yn westy ‘boutique' di-fenter ei gynllun yng nghanol rhialtwch Paris, ond mae bellach yn rhan o'r sefydliad gynllunio.
Hanes
Mae'r arwyneb o'r 1900au wedi ei gofrestru fel rhan o etifeddiaeth y Ffrancwyr, ac mae arwyddfwrdd y siop wedi cael ei gadw. Er mwyn creu'r adeilad 17 ystafell, 7,500troedfeddsgwâr, mae'r penseiri Cabinet Vincent Bastie wedi cyfuno dau hen adeilad, un ohonynt yn gartref ers talwm i fecws hynaf Paris. Mae'n debyg mai'r becws yma oedd ffefryn Victor Hugo! Addurnodd Lacroix yr adeilad drws nesaf hefyd, a fu gynt yn rhoi to uwchben hen westy digon siabi gydag ystafelloedd a bar bach a chyfyng.
Nodweddion
Mae yma 17 ystafell unigryw - pob un wedi eu cynllunio gan Lacroix. Mae un ystafell yn dynwared ‘atelier' gwneuthurwr ffrogiau, gyda darluniau pensil Lacroiox ei hun wedi eu fframio ar y waliau, tra bod ystafelloedd eraill yn cynnig naws y Baroc (i fod yn gyson) ym Mharis, celf pop y '60au neu Zen. Mae Lacroix yn cymysgu deunyddiau a gweadau ar bwrpas - dychmygwch y canlynol: soffas lledr oren gyda waliau cynfas brown, llenni sgleiniog, plu, gleiniau yn y nenfwd a phrintiau a drychau Ffrengig o'r 18fed ganrif. Dipyn o lobscows, ond mae'n gweithio! Yn yr ardal groesawu mae yna beintiadau hen ffasiwn ar y nenfwd, ac mae'r lolfa gyfagos yn nodweddiadol o steil gwrthgyferbyniol Lacroix, ac yn llawn cyfuniadau anhebygol o liwiau, deunyddiau a dodrefn. Cymysgir cadeiriau Louis XIV gyda soffas lledr cyfoes a lamp Arco o'r '6oau. Oddi mewn ac oddi allan, mae nodweddion gwreiddiol y becws wedi eu cadw a'u pwysleisiogan y dewis dramatig o liw a gwead.














