
Cynllunydd: Leah Hughes
Mae'r cynllunydd Leah Hughes yn ymuno ag Aled Samuel yn y ddegfed gyfres o ‘04Wal', sy'n canolbwyntio y tro hyn ar westai'r byd. Mae ei harbenigedd mewn cynllunio mewnol yn y sector fasnachol wedi rhoi cyfle iddi rannu ei syniadau a thynnu sylw'r gynulleidfa at elfennau gwahanol o gynllunio o fewn y gyfres.
Wedi cwrs sylfaen mewn Celf a Dylunio yn Wrecsam, cwblhaodd Leah radd mewn Cynllunio 3D ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds. Roedd y cwrs yn croesi sawl disgyblaeth ac yn enwog am gynllunio cysyniad a rhyngweithio. Ers graddio, mae Leah wedi mynychu Gweithdy Amgueddfa Dylunio Vitra yn Boisbuchet, Ffrainc, ac wedi arddangos ei gwaith celfi yn Brick Lane, Llundain a Covent Garden. Yn ogystal â hyn, mae Leah wedi cael hyfforddiant a chefnogaeth Asiantaeth Datblygu Llundain i ddatblygu un o'i phrosiectau ffasiwn. Mae hi hefyd wedi ymddangos ar dudalenau'r cylchgrawn cynllunio ‘Design Week' ac yn y papur newydd Metro fel ‘young hopeful'.
Ers hynny, mae Leah wedi dylunio i gwmni cynllunio mewnol masnachol yny diwydiant hamdden, ac i'r Eastlake Group, un o gwmnïau cynllunio mewnol mwyaf Prydain. Mae hi hefyd wedi bod yn gyfrifol am gynllunio mewnol sawl adeilad, megis gwestai, ambell far, a siopau masnachol. Ei swydd gyntaf yn y cyfryngau oedd fel cynllunydd ar y rhaglen blant ar S4C, ‘Hip neu Sgip?'; cyfres a oedd yn trawsnewid ystafelloedd o amgylch y wlad.
Yn angerddol am gynllunio ac arloesi, mae Leah yn credu mai cyfrinach cynllunio da yw ffurf yn dilyn pwrpas, bod yn ymarferol ond gwthio'r disgwyliadau. Mae hi wrth ei bodd â chynlluniau chwareus, arbrofol syddim yn cymryd cynllunio ormod o ddifri - pethau sy'n rhoi gwên ar wyneb. Mae ganddi ddipyn o obsesiwn gyda chynnyrch rhyngweithiol low-tech hefyd! Mae wrth ei bodd a chelfi'r 1940au a chelfi wedi eu caru ynghynt.
Dros y gyfres yma, mae Leah wedi mwynhau'r cyfle i weld gwaith gwahanol gynllunwyr masnachol dros y byd i gyd. Yn ei thyb hi "mae'r gwestai hynod yn agoriad llygad i bosibiliadau dylunio, wrth ddatgelu beth sydd yn mynd ymlaen yn y byd cynllunio a gwthio'r disgwyliadau."
Yn wreiddiol o Ruthun, mae Leah bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac hyd yn hyn wedi cael gyrfa amrywiol iawn. "Pwy â wyr beth ddaw nesa," meddai. "Mae arbenigo mewn dylunio wedi fy ngalluogi i i weithio mewn sawl maes creadigol sy'n croesi sawl disgyblaeth, ac yn cadw gwaith yn ddifyr iawn."