04WAL: GWESTAI'R BYD

  • Ffermdy 16ed ganrifFfermdy 16ed ganrif
  • Ffermdy 16ed ganrif
  • Clwyd a arwydd y gwesty
  • Lobi
  • Wrth ymyl y tan
  • Cymysgedd o
  • Drysau Morocaidd anferth
  • Bwyty Hurst House
  • Piano a bar y Bwyty
  • Y brif bar unigryw, a
  • Y Chesterfield yn yr uwch-ystafell
  • Yr ystafell wely orau
Cymru - Hurst House

Rhaglen 5

Yn fras

Gyda'r môr, moryd yr afon Tywi ac aceri o gorstir o'i gwmpas, mae'r cuddfan pellennig yma wedi cael ei adfer, gan gyfuno'i gymeriad gwreiddiol o ardal Dylan Thomas gyda sglein gyfoes.

Cynllunio mewnol

Bu'r perchennog Matt Roberts a'r cynllunydd mewnol Juliet de Valero Wills yn cyd-weithio'n effeithiol i greu gwesty sydd yn soffistigedig ac eto'n egsentrig.

Hanes

Wrth galon y gwesty mae Hurst House, hen fferm wartheg a adeiladwyd yn 1595. Dymadarddiad  yr enw ‘hurst'. Drws nesaf mae bragdy, a'r tŷ halen. Ychwanegwyd nifer o adrannau ac ystafelloedd at y tŷ dros y blynyddoedd, gan gynnwys ysgubor fawr a drowyd yn gaer i gadw'r Ffrancwyr draw yn ystod rhyfel Napoleon.

Nodweddion

Mae chwech o'r ystafelloedd yn llofftydd ‘mezzanine' unigol gyda lolfa a thŷ bach ar y llawr cyntaf ac ardal gysgu moethus i fyny'r grisiau gyda gwelyau anferth yn ganolbwynt. Mae golygfeydd gwych o'r corstir helaeth i'w canfod ym mhob ystafell, ac mae prif nodweddion yr amgylchedd wedi ysbrydoli'r dewis o liwiau, gweadau a chelf sydd i'w cael y tu mewn i'r gwesty. Maent i gyd yn brolio dodrefn moethus a naws y '60au, gan gynnwys lampau ‘triffid' mewn coch trawiadol, deunydd melfedaidd trwm a lloriau carreg drwy'r tai bach.

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test