Cyflwyniad
Wedi naw mlynedd o ymweld â phobl a'u cartrefi yn 04Wal, daeth yn amser i ddathlu ein degawd mewn steil. Cyfle felly i bawb gael breuddwydio a dianc heb orfod symud o'r gadair esmwyth!
Bwriad y gyfres ydy cael cyfle i werthfawrogi pensaernïaeth a chynllunio yng nghwmni Aled Samuel a'i gyd-ymaith newydd, y cynllunydd mewnol Leah Hughes. Mi fyddwn ni'n ymweld â 36 gwesty yn ystod ein deuddeg rhaglen a bu'r broses o'u dewis yn bleser pur. Roeddwn yn edrych am stori, boed yn stori bensaernïol bur, yn stori gynllunio ddifyr, neu'n stori fyddai'n pontio rhwng celfyddyd, ffasiwn, pensaernïaeth a chynllunio mewnol. Yn hynny o beth mae pob gwesty yn unigryw ac yn cynnig rhywbeth gwahanol.
Gwenda Griffith
Uwch Gynhyrchydd



