04WAL: GWESTAI'R BYD

  • Derbynfa siâp ŵy yn cynrychioli chwedl y ‘Kalevala’Derbynfa siâp ŵy yn cynrychioli chwedl y ‘Kalevala’
  • Derbynfa siâp ŵy yn cynrychioli chwedl y ‘Kalevala’
  • Addurn “nyth” uwchben desg y dderbynfa
  • Desg ac eisteddle diwnïad y dderbynfa
  • Golau wal pren haenog y bwyty
  • Décor chwedlonol y coridor
  • Ystafell goch yn cynrychioli cynllun nwydus y ‘Kalevala’
  • Ensuite Scandinafaidd
  • Nenfwd addurnol rhubanog y bwyty
  • Ardal y dderbynfa
Y Ffindir - Klaus K

Rhaglen 4

Yn fras

Gweddnewidiwyd y Klaus Kurki Hotel i'r Klaus K mewn gweithred greadigol o gynllunio cyfoes, a ysbrydolwyd gan y gerdd epig Ffineg genedlaethol, Kalevala.

Pensaer

Mae'r adeilad, a godwyd yn 1913, yn hannu o gyfnod Rhamataidd genedlaethol Y Ffindir, ond yr unig dystiolaeth o hynny yw'r gwaith carreg sydd wedi ei gerfio o gylch y ffenestri dan oruchwyliaeth y pensaer Ffineg, Lars Sonck. Anwybyddodd Sonck y ffasiwn am resymoli, gan droi yn hytrach at draddodiad hanesyddol Y Ffindir a'i chreadigaethau carreg phensaernïaeth o bren. Mae comisynau coffadwriaethol Sonck yn drwm dan ddylanwad y dull neo-Ramantaidd. Yn ffigwr blaenllaw yn ymgais y Ffindir i ganfod hunaniaeth bensaernïol, chwaraeodd Sonck ran bwysig yn natblygiad Rhamantiaeth genedlaethol y wlad.

Hanes

Yn y gorffennol, roedd y Klaus K yn westy busnes digon di-nod mewn adeilad brics o'r 20fed ganrif. Y Rake Group oedd y perchnogion.

Nodweddion

Mae'r grisiau pren wrth y fynedfa yn arwain at y dderbynfa, gyda'i desg siâp wy o bren gwyn sgleiniog, a cherflun llachar ar ffurf nyth uwch ei phen. Mae pedwar cynllun i'r ystafelloedd, yn cynrychioli prif elfennau emosiynol Kalevala. Mae gan bob ystafell ei thema, yn cyd-fynd â'r pedwar emosiwn, a'r lliwiau yn cyd-fynd â hynny: coch, glas, brown ac aur, a du a gwyn. Maint canolig yw pob ystafell, ac mae ganddynt loriau pren caled, cadeiriau o liwiau gwrthgyferbyniol, megis oren yn yr ystafelloedd glas, gwelyau a matresi wedi eu gwneud yn arbennig, ac mae'r pennau gwelyau uchel o swêd wedi eu creu ym mhrif liw yr ystafell (mae rhai ohonynt yn y llofftydd Eiddigedd wedi eu gwneud o ffwr carw ffug). Mae'r lliwiau mytholegol, y papur wal, y décor a charped y cyntedd wedi ei weu â barddoniaeth y Kalevala i gyd yn rhan o ddychmygiaeth Stylt Trampoli AB o fytholeg y Ffindir.

Mae'r Klaus K yn aelod o Design Hotels.

 

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test