04WAL: GWESTAI'R BYD

  • Y cwrt palmwyddenY cwrt palmwydden
  • Y cwrt palmwydden
  • Ffynnon ar y cwrt
  • Pwll diddiwedd
  • Gwinllanoedd Franschhoek
  • Bwâu Tysganaidd a chadeiriau ratan
  • Rhosynod
  • Neuadd fwyta brenhinol
  • Mynedfa
  • Canhwyllwr Indiaidd
  • Cadair freichiau steil Rococo
  • Henebion Ffrengig ag Asiaidd
  • Soffa menyn-felyn, lemwn ag aur
  • Henebion Ffrengig ag Asiaidd
  • Gwelyau dydd dwyreiniol
  • Cadair freichiau y Brenhines Anne
  • Ystafell wely Ffrengig
  • Ffrâm wely trefedigol
  • Gwesty, coed palmwydd a golygfeudd Franschhoek
De Affrica - La Residence

Rhaglen 5

Yn fras

Dyma gynnyrch cydweithrediad cynllunydd mewnol a hanesydd celf, ac mae'r gwesty bychan yma'n darparu amrywiaeth difyr o drawstiau moel, pyrth a ‘loggias' Twscan, darnau cyfnod ac ‘art deco' Fictorianaidd, wedi ei osod yng ngwinllanoedd Franschoek yn Ne Affrica.

Perchnogion

Liz a Phil Biden

Hanes

Dylanwadwyd y gwesty yma gan ardal Twscani, ac mae'r ffermdy Iseldiraidd yn drwm hefyd dan ddylanwad cyfnod Louis XV. Dyma fersiwn mwy diweddar o'r eiddo Franschhoek gwreiddiol, a adeiladwyd o'i seiliau mewn man gwahanol ond gyda'r un weledigaeth, gan apelio at y rhai sydd eisiau bod yn ymyl y bwrlwm heb fod yn ganolbwynt iddo. Adeiladwyd y villa newydd ar raddfa dipyn yn fwy, ond gyda'r un naws brenhinol â'i ragflaenydd, gyda drysau cerfiedig o'r nenfwd i'r llawr. Ardal Iseldirol o Dde Affrica yw Franschhoek, a bathwyd yr enw gyda dyfodiad alltudion Huguenot o Ffrainc i Dde Affrica yn y 1600au hwyr a'r 1700au cynnar, pan ddaethant i'r ardal i ddianc rhag gormes grefyddol Louis XIV. Cawsant dir, celfi a hanfodion amaethu gan yr Iseldirwyr. Yn wir, cawsant bopeth ei angen arnyn nhw i wneud gwin, oherwydd roedd angen gwin ar Gwmni Isediraidd Dwyrain India i'w roi i'w llongwyr. Ystyr y gair Franschhoek yw ‘y gornel Ffrengig'.

Nodweddion

Mae 11 ystafell wely moethus wedi eu haddurno â hen gelfi cain, carped o Bersia a chymysgfa ddifyr o waith celf lleol a thai bach palasaidd. Mae'r perchennog, Liz Biden, wedi llenwi'r lle gyda henebion a thrysorau prin o bedwar ban byd. Mae yna ‘boudoirs' gyda themâu Ffrengig, gyda henebion amheuthun wedi eu casglu o bell, a threseli crand gyda drychau yn rhan ohonynt, pob un â'i gymeriad unigryw ei hun, o'r ‘boudoir' benywaidd pinc a leim i'r ystafell fis mêl o farmor gwyn. Gwnaethpwyd y chandeliers crisial â llaw yn India a daethant mewn 25 bocs. Mae'r Bidens wedi gorfod comisynu gwaith scaffald arbennig er mwyn medru newid y bylbiau!

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test