Hoff bethau Leah
Wedi eu cynllunio’n arbennig i’r gwesty gan Christophe Pillet, fy hoff bethau yw’r seddi ‘pod’, sydd yn dominyddu’r gwagle gyda’u ffurfiau cryf, ac yn ymestyn yr holl ffordd at y nenfwd. Mae’r stribedi bedw sglein wedi eu ffurfio’n siâp cloch ben i lawr, ac maen nhw’n cynnal y sedd a’r cefn lledr-smâl lliw mafon yn effeithiol iawn. Mae ffurfiau benywaidd y sedd a’r lliwiau gwrthgyferbyniol yn cynnig ymdeimlad rhywiol a chwaraeus, a’r gwagleoedd rhwng y stribedi fel gêm guddio, yn cynnig agosatrwydd ac amddiffynfa ar yr un pryd. Maer rhain yn seddi hardd iawn, ond mae'n nhw hefyd yn ymarferol a hawdd eu defnyddio.
Symlrwydd siâp yr hemisffer yw’r ysbrydiolaeth ar gyfer y greadigaeth hyfryd yma. Plastig ‘methacrylate’ tryloyw yw’r defnydd, ac mae’r lamp yn disgyn o’r nen fel swigod sebon. Cynlluniwyd y lamp gan Ferruccio Laviani. Mae'n cael ei ddosbarthu gan Kartell, cwmni a ddaeth i fodolaeth yn Milan yn 1949 dan lygad craff Giulio Castelli. Y brif amcan oedd dod â phlastig i’r cartref, ac fe wireddwyd y freuddwyd – a hynny mewn steil.
Fy hoff beth...? Wel, nid Aled yn gorweddian yn y bath mae hynny’n saff! Y bath siap ?y a wnaethpwyd o goncrit llyfn ddaliodd fy sylw yma, ac mae’r deunyddiau i gyd yn gydnaws â’r amgylchedd, gan roi teimlad unigryw i’r baddon yma gan ei fod wedi ei wneud â llaw, gan gadw’r elfennau amherffaith sydd mor bwysig wrth roi bywyd a chymeriad i gelfigyn mor arbennig. Codwyd y baddon yn y fan a’r lle, ac mae symlrwydd y cynllun yn annog y cwsmer i werthfawrogi’r wlad o gwmpas y gwesty, gan nad yw’r cynllun yn or-gymhleth nac yn tynnu’r sylw yn ormodol. Cysyniad pwysicaf y gwesty yw dod â’r cwsmer a natur ynghyd, ac fe wneir hyn yn llwyddiannus iawn wrth osod y baddon ar ymyl yr ystafell, fel bod modd ymolchi mewn awyrgylch moethus a naturiol, a bod yn noeth ir elfennau ar yr un pryd.