Hoff bethau Leah

ARSEFYDLIAD
Emiradau Arabaidd Unedig - XVA ART HOTEL
XVA Art Hotel

Mae’r gwesty celf yn frith o weithiau celf a cherfluniau steilish o bob math. Wrth gerdded i mewn i’r adeilad, gwelwn fod y nenfwd wedi ei addurno’n helaeth gyda haenau ar haenau o ddefnydd lliw hufen. Mae’n nodwedd chwaraeus, ac yn awgrymu plygiadau pais rhyw ledi grand, a ninnau yn edrych i fyny iddo! Caiff hyn ei bwysleisio fwy fwy wrth inni sylwi bod breichiau a choesau i’w gweld yn sbecian o blygion o defnydd.

Nodwedd hwyliog yw hwn, ond o edrych yn fanylach, mae yna elfen ychydig yn dywyll i’r gwaith, gan fod y breichiau a’r coesau yn lliw cochlyd, yn awgrymu gwaed. Nid yw’n tynnu’r sylw yn ormodol, ond mae’n ennyn diddordeb, yn gwneud i rywun feddwl a syllu, ac yn hoelio naws y gwesty mewn ennyd.

 

 

BWRDD OCHR CONSOL AR FFURF ESTRYS
Groeg - BABY GRAND HOTEL
Baby Grand Hotel

Mae’r bwrdd siap estrys yn dod â hiwmor i’r gwagle gyda’i efelychiad adaryddol unigryw! Mor rhyfedd yw’r siâp, nes bod y gwrthrych fel petai yn symyd, a’r coesau fel eu bod yn dianc oddi wrthych chi. Dyma nodwedd egsentrig iawn, a dyna pam mod i mor hoff ohono.

Roeddwn i’n arbennig o hoff o ail a thrydydd elfen y bwrdd. Mae’r gwaelod, sydd wedi ei lamineiddio ac yn goch a sgleiniog, wedi ei greu o gyfres o breniau sydd yn ffitio ynghyd fel ‘flat pack’, ac mae top yr aderyn yn ffurfio creadigaeth du a gwyn, wedi ei gynllunio’n arbennig i gyd-weddu â’r bwrdd consol, fel bod modd addasu’r gwagle ac addurno’r wal. Mae’n syniad hwyliog, sy’n codi gwên!

 

 

DRWS GWREIDDOL Y GELL
Lloegr - MALMAISON
Malmaison

Ag yntau’n gyn-garchar, addaswyd yr adeilad yn westy thematig, a hynny heb anghofio’i orffennol unigryw.
 
Mae naws y gorffennol ymhob twll a chornel. Un o fy hoff nodweddion oedd y drysau coch sydd yn effeithiol iawn yn erbyn waliau gwynion y cyntedd. Mae’r drysau metal yn gyforiog o gymeriad, ac yn ein hatgoffa o fywyd arall y gwesty – mae pob un yn unigryw, a golwg wedi gweld bywyd ar bob un! Petai’r drysau yma’n medru siarad, mi fyddant yn adrodd hanes lliwgar iawn am orffennol yr adeilad, ac am y tyllau a’r crafangiadau sydd i’w gweld ar y drysau! Mae’r tyllau sbecian dal yn y drysau, ond bellach mae modd gweld allan hefyd, ac fe rheolir y clouon gan y gwesteion, wrth gwrs.

 

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales