Hoff bethau Leah
Dwi wrth fy modd efo’r syniad o ychwanegu cynnwrf a diddordeb i wrthrych bob dydd, ymarferol, ac mae’r bwrdd yn llwyddo i wneud hynny drwy grefftwaith o’r safon uchaf.
Wrth osod y coesau tua’r canol, mae’r cynllunydd wedi creu’r argraff o fwrdd sy'n arnofio, ac ar yr olwg gyntaf, dim ond blwch gwydr sydd i’w weld.
Ond, o edrych yn fanylach, mae’r gwydr yn dangos delwedd o bysgod wedi eu picseleiddio, a wnaethpwyd o gannoedd o sgwariau mosêc amryliw, sy'n gweddnewid y blwch i fod yn danc pysgod.
Dwi’n mwynhau gwrthrychau aml-ddefnydd, ac mae llwyddiant y greadigaeth glyfar yma yn ddibynnol ar ei apêl i’r synhwyrau.Mae'n weledol gynhyrfus ac yn ennyn ymateb corfforol yn y sawl sy'n ei gweld.Mae’r ddesg yn y dderbynfa, a wnaethpwyd yn arbennig, wedi ei chynllunio gan Nicholas Hollinshead ac wedi ei chreu gan Benchmark.
Mae’n gyfuniad o wyneb sglein piwtar wedi ei gynhesu a’i oleuo, a chorff wedi ei orchuddio â lledr crocodeil porffor. Ar ymyl y ddesg mae yna botyn anferth i ddal blodau, ac mae eu harogl yn llenwi’r gwagle.
Rhoddwyd teils tenau fflat mewn lliwiau gwyrdd amrywiol o gylch y cerflun Asiaidd ar y bar. Mae cyfuniad y deunyddiau gwahanol a’r goleuo cynnil yn creu effaith hudol.
Mewn golau dydd mae lliwiau gwyrdd a chopr yr onyx yn debyg i raen mewn pren, ond caiff ei weddnewid gyda’r nos wrth i’r teiliau tenau ganiatáu i’r golau grwydro mewn. Wedi hynny, mae teimlad cynnes i’r onyx, ac wrth i’r lliwiau copr waedu i’r gwyrdd mae’r gwythiennau lliw yn gwrthgyferbynu, ac yn ymdebygu i floc o gaws glas.
Er mwyn tynnu sylw at y bar crwn, mae’r poteli diod wedi eu gosod o amgylch gwddf y cerflun, gan awgrymu colero emwaith amryliw.