Hoff bethau Leah
Er bod lliw yn bwysig iawn imi, cefais fy nhynnu yn eironig iawn at y carped polca dot du a gwyn sy'n awain y ffordd at yr 17 ystafell. Mae'r print fel defnydd bron, yn ymestyn ar draws y llawr, ac mae'r smotiau mawr yn cael eu 'stumio gan y grisiau, fel plygiadau mewn ffrog grand. Mae pren y canllaw yn gwrthgyferbynu'n effeithiol gyda'r print retro.
Wedi ei guddio mewn cornel o frics amrwd, saif y cloc aliwminiwm gogoneddus yma yn ddi-sylw, bron, trysor cudd go iawn. Cafodd y cloc ‘Atlas' yma ei gastio o aliwminiwm gyda wyneb gwydr wedi ei wneud yn arbennig, a chafodd ei gynllunio gan Mark Avis. Mae ei natur hylifol ac unigryw yn gwrthgyferbynu'n effeithiol â'r deunyddiau cadarn, ac mae'r un hiwmor yn perthyn iddo â gwaith Salvador Dali.
Ysbrydolwyd Mark gan y cysyniad o amser a'r ffordd rydyn ni'n gwastraffu amser, ac fe ddangosodd sut mae amser yn cael ei dywallt i ffwrdd gan 'stumio'r cloc rhyw fymryn i greu argraff simsan.
Mae La Residence wedi ei wisgo'n odidog â chymysgedd unigryw o henebion addurniedig, carped Persaidd a gweithiau celf. Disgynais dros fy mhen a nghlustia' efo'r Disa Suite, ‘boudoir' benywaidd sy'n drwch o hen bethau Ffrengig ac Asiaidd. Gwironais ar y lliwiau gwyrdd, pinc a phiws, a'r gwely anferth yng nghanol y stafell, ei faint anhygoel a'i liwiau artisitig.
Yn gydnaws â'r siâp trefedigaethol hynod, mae lliw gwyrdd y gwely yn dod â theimlad egsotig i'r ystafell yn syth. Mae natur amrwd y gwead yn cadw'r darn yn soffistigedig, gan sicrhau nad oes dim yn ddi-chwaeth am y gwagle yma. Trawsnewidir natur gwrywaidd y gwely drwy dynnu sylw oddi wrth y manylion brenhinol, a rhoi naws go hegar o hiwmor a hwyl i'r cyfanwaith.