04WAL: GWESTAI'R BYD

Hoff bethau Leah

TADELAKT PIGMENTOG
Moroco - RIAD EL FENN
Riad El Fenn

Mae'r tadelakt (neu ‘Tadellakt') wedi bodoli ers yr Oesoedd Canol, a daw'r gair o'r ferf Forocaidd ‘dellek', sy'n golygu gwasgu neu tylino. Math o blastar leim llachar sydd yn dal dŵr yn dda yw hwn, ac mae i'w weld yn aml fel gorchudd i balasau, hammams a riads Morocco.

Mae'r leim o Marrakech o safon uchel, wedi ei gynhyrchu â llaw o ddeunyddiau cwbl naturiol, ac mae ei naws a'i nodweddion amrwd yn teimlo'n braf ac effeithiol, a'i burdeb yn llenwi'r gwagle mewnol, ac yn dod â moethusrwydd unigryw gydag o, yn denau a sgleiniog fel lledr. Gellir lliwio'r tadelakt mewn unrhyw liw, ac mae'r arwyneb yn gyfnewidiol wedi hynny.

Yn y Riad el Fenn, mae'r tadelakt i'w weld ym mhob man, yn gorchuddio'r sgertin, lloriau, canllawiau a waliau, ac mae ei natur hyblyg yn ei wneud yn ymarferol a ffasiynol.

 

 

GOLAU ‘SCRIBL
Sbaen - HESPERIA TOWER
Hesperia Tower

Goleuo pensaernïol gwych, sydd fel petai yn hofran yn yr awyr wrth iddo grogi o'r nenfwd.

Addurno yw ei unig bwrpas, a daw'r golau chwaraeus, hudol yma yn fyw fel sbarclar yn y nos, yn goleuo'r gwagle mewn ffordd gwbl unigryw. Mae'r lliw gwyrdd yn cynnig naws retro, ac mae teimlad clwb nos i'r golau a'r effaith mae'n ei greu. Mae'n tynnu sylw chwaraeus ato'i hun yng nghanol y lobi, ac yn adlewyrchu ar y llawr sgleiniog odano.

 

 

GWELY LLWYD
Lloegr - YOTEL
YOtel

Wedi ei leoli o fewn terminws maes awyr Gatwick, ysbrydolwyd Yotel gan westai ‘capsiwl' Siapan.

Dwi'n arbennig o hoff o gynllunio creadigol y gwely sengl. Mae'n suddo i'r wal, ac mae'r agoriad chwareus yn eich gorfodi i ddringo fyny neu ollwng eich hun i lawr i'r nyth o wely, sydd yn cynnig naws gwarchodol a chysurus. Defnyddiwyd y gwagle yn effeithiol a darbodus, ac mae'r gwelyau ‘caban' wedi eu gosod uwchlaw neu o dan eich llety, i arbed lle.

Unwaith i chi ymgartrefu yn eich nyth clyd, cewch wylio ffilm mewn moethusrwydd a phreifatrwydd ar sgrin fflat anferth. Mae pren derw o gylch y teledu a lledr llwyd tywyll o gylch y gwely, ac mae'r dewis o ddeunyddiau a lliwiau yn creu naws gyfoes sydd â'i olygon tua'r dyfodol.

 

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test