Hoff bethau Leah

CADAIR KILIM QUEEN ANNE
Cymru - PORTMEIRION
Portmeirion

Yr hyn dwi'n garu am y darn hwn yw'r ffaith ei fod yn falans o gelf, ffurf a diwylliant.

Mae'r gadair draddodiadol Brenhines Anne hefo'i adennydd yn ffurf anarferol o'i gymharu a'r darn traddodiadol y byddwn yn aml yn dod ar ei draws.

Wedi ei orchuddio a defnydd llachar coch, glas a melyn, mae'r Kilim Twrciaidd lliwgar yn creu'r annisgwyl gyda'i batrymau cryf geometrig celf-llwythaidd gwerinnol. Mae'n asio cynllun a lliw hefo crefftwaith arbennig.

 

 

CADAIR CRAGEN FÔR
Moroco - DAR DARMA
Dar Darma

Dwi'n hoff o o ddodrefn retro sydd wedi eu caru gynt. Rwy'n teimlo bod siap anarferol y gadair yn hollol unigryw.

Mae ei ffurf gain ac eto anarferol yn cymryd ffurf seren neu cragen môr, wedi ei addurno hefo peipwaith piws tywyll sy'n siapio'r gadair.

Gyda'i ddefnydd gwreiddiol a'i goesau, mae'n hawdd gweld sut mae'r darn yma wedi ei gadw cystal, ac wedi ei osod yn erbyn cyferbyniad y drysau duon mae'n ddarn trawiadol o fewn y stafell.

 

 

FFENEST-TO
Sbaen - HOTEL OMM
HOTEL OMM

Enghraifft eithriadol o ffurf yn dilyn pwrpas, wedi ei greu gan y pensaer Juli Capella.

Mae'r ffenest-to naw pyramid yn gwthio mewn i'r ystafell gan dyfu allan o'r nenfwd i adael golau naturiol i mewn. Yn ddyfeisgar iawn, fel y pyla golau'r haul, mae system electroneg yn cynnau i gynyddu lefel y golau naturiol.

Mae'r ateb ymarferol yma yn trawsnewid gwedd yr ystafell gan greu diddordeb ychwanegol. Mae ganddynt newydd-deb, yn syllu allan yn ddoniol o'r nenfwd concrit fel llygaid anferth.

 

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales