04WAL: GWESTAI'R BYD

Hoff bethau Leah

Crogdlws Caravaggio, gan Light Years
Wales - SLEEPERS
Sleepers

Steilish ac eto'n syml, mae natur siapus y crogdlws yn adleisio'r ffurf fenywaidd yn berffaith, tra bod ei wneuthuriad dynol yn creu gwrthgyferbyniad trawiadol. Gwnaethpwyd corff y lamplen o ddur, ac fe'i orchuddiwyd mewn paent du sgleiniog. Mae'r cordyn coch - sydd yn liw poblogaidd drwy bob rhan o'r gwesty - yn chwistrellu ynni i'r cynllun mewnol a chorff syml y lamplen. Mae'r cordyn tenau a osodwyd yn sownd i'r lamplen yn debyg i fwced o rhyw fath!

 

Model wrth raddfa o
Spain - MARQUES DE RISCAL
Marques de Riscal

Roeddwn i wedi dotio at fodel i raddfa Frank O. Gehry a'i frasluniau cysyniadol sydd yn darlunio'r camau datblygiadol y tu cefn i'r Marques de Riscal Hotel, neu'r 'chateau i'r unfed ganrif ar hugain'.

Mae'r coesau priciau matsis ar twca o blastig gludiog yn trawsnewid o fod yn gwlwm blêr i fod yn gyfuniad ymfflamychol o ditaniwm a dur. Mae'r rholiau o ddur gyda drychau ar lliwiau titaniwm pinc ac aur wedi cael eu hysbrydoli gan winoedd yn llifo o botel i dywodfaen monolithig a rhwydwaith o ddistiau dur.

 

Desg Flaen Sy
Italy - PALAZZO BARBARIGO
Palazzo Barbarigo

Mae'r cynllunydd mewnol Alvin Grassi wedi ail-ddehongli'r palazzo, a hynny mewn termau benywaidd. Mae'r gwesty yn edrych dros y Grand Canal, ac mae'r cynllun mewnol, a ysbrydoliwyd gan Art Deco, yn gwrthgyferbynnu'n hyfryd gyda'r tirwedd allanol amrywiol.

Mae'r dodrefn - a gafodd ei wneud yn arbennig - yn un teulu mawr, yn llwyd a myglyd ei naws, ar ddesg, a wnaethpwyd o wydr ffeibr sidan, yn hynod drawiadol, gan ei fod yn edrych fel pe bai'n arnofio uwchben y llawr marmor tywyll, sydd wedi ei oleuo gan olau-stribed glas. Mae'r ymylon crwn yn mynegi'r ymdeimlad benywaidd sydd i'w dderbynfa/boudoir yma.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test