Tu allan y gwesty yn ardal dociau Amsterdam
Coridor cromennog trwm o’r 1920au sydd wedi ei gadw
Tŷ bwyta ‘Snel’ – tu fewn agored ffres a cyferbyniol
Grisiau cyfoes gwydr i ardal y ‘Llysgedhadaeth diwyllianol’
Coridor – nodweddion gwreiddiol wedi eu cadw
Ystafell 5 seren - anhygoel
Ystafell 3 seren - gan yr artist Richard Hutten
1 seren – hen ystafell mewn carchar
Ystafelloedd 1 seren – rhannu baddondy yn y cyntedd
Rhaglen 12
Yn Fras
Mae'r Lloyd Hotel, sydd wedi ei leoli yng nghanol ardal ddwyreiniol Amsterdam, yn flaengar a dyfeisgar ymhob ffordd. Adeilad wedi ei restru ydi hwn, yn dyddio o 1921, ac mae wedi cael ei droi yn westy sy'n arddangos pensaernïaeth a chynllunio Iseldireg ar ei orau. Mae'r 117 ystafell yn amrywio o ran moethusrwydd gyda phob un yn faint gwahanol ac wedi eu steilio'n unigryw.
Hanes
Fe'i agorwyd ym 1921 gan gwmni cychod De Kininklijke Hollandsche Lloyd. Mae'r adeilad yn berwi o hanes, a bu'n gartref i alltudion, milwyr a gweithiau celfyddydol dros y blynyddoedd, er iddo fynd a'i ben iddo yn araf. Tyfodd y ddinas o'i gwmpas, ac fe benderfynwyd cynnal cystadleuaeth i ganiatáu datblygiad yr adeilad i'r sawl a fedrai wneud y defnydd gorau ohono. Felly y ganwyd y Lloyd Hotel ac fe ddechreuodd y gwaith adeiladu yn 1997.
Nodweddion
Mae'r addurno mewnol yn gyfuniad o gynllunio Iseldireg cyffrous ond mae llawer o'r cynllunio'n llawn gwreiddioldeb anghyffredin a bellach mae'r gwesty'n cael ei ystyried yn un o westai boutique mwyaf cyfoethog ei ddiwylliant yn Amsterdam. Creadigrwydd yw'r ffocws yma ac mae'r ‘waw ffactor' yn amlwg. Mae yna ambell i sypreis, fel baddon sydd hefyd yn gadair, neu faddondy sy'n plygu ymaith, ac mae'r penseiri a'r cynllunwyr fel ei gilydd wedi gweithio'n galed iawn wneud defnydd creadigol ac anghonfensiynol o'r gwagle.








