o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu English
Dummy alt text
 

 

Gallwch brynu nwyddau Cath Kidston, gyda’u hysbrydoliaeth o batrymau lliwgar y 50au, trwy’r post (ffoniwch 020 7229 8000) neu dros y we - www.cathkidston.co.uk
Ceir dewis eang yma, sy’n cynnwys amrywiaeth o bethau â phatrymau blodeuog: tyweli, gorchuddion bwrdd smwddio, llestri a hyd yn oed rhywbeth i orchuddio’ch i-mac!

Cafodd y gadair dryloyw arbennig, o’r enw 'Ghost', ei chynllunio gan Philippe Starck ar gyfer cwmni Kartell. Mae ar gael mewn amryw liw, ac yn costio £130 o www.powderedwater.co.uk

Mae cwmni Farrow and Ball yn cynnig paent arbennig ar gyfer lloriau mewn ystod eang o liwiau. Cynlluniwyd y paent yn arbennig ar gyfer wrthsefyll defnydd trwm. Fel arall, gallwch selio byrddau’r llawr gyda chot o farnais acrylic tryloyw ar ôl eu paentio.