• Twll sbïo drws cell wreiddiolTwll sbïo drws cell wreiddiol
  • Twll sbïo drws cell wreiddiol
  • Ystafelloedd gwely
  • Malmaison o’r tu allan
  • Atriwm adferedig y carchar
  • Drws gwreiddiol y gell ac arwydd gimig
  • 3 cell wedi’u droi yn 1 ystafell ‘ensuite’
  • Rhagfur gyda
Lloegr - Malmaison

Rhaglen 3

Yn fras

Cyn-garchar wedi ei weddnewid yn westy moethus yng nghanol Rhydychen yw'r Malmaison. Mae'n cynnig y profiad o fod mewn carchar, ond heb i chi fod dan glo. Mae yna hen ddrysau allanol gyda styds, ffenestri â bariau, drysau mewnol dur tair modfedd o drwch, a sawl landin a grisiau oddi fewn i'r adeilad.

Y Cynllunydd

Ymunodd Stephanie Briggs â Grwp Malmaison fel eu Cyfarwyddwr Cynllunio ym mis Ionawr 2005, a'i phrosiect cyntaf oedd Malmaison Rhydychen, sydd bellach wedi derbyn gwobr Catey am brif Grwp Gwestai y flwyddyn.

Hanes

Adeiladwyd y carchar o fewn curiau castell Rhydychen, ac roedd yn weithredol tan 1996. Addaswyd yr adeilad yn westy, ac fe agorodd y Malmaison ym mis Tachwedd 2005. Credir bod carchar wedi bodoli ar dir Castell Rhydychen ers 1166, ac yn 1236 rhoddwyd caniatâd i Ganghellor y Brifysgol ddefnyddio'r lle i gosbi ysgolheigion a oedd yn cicio yn erbyn y tresi.

Nodweddion

Lleolir y gwesty mewn amryw o adeiladau gwahanol, gan gynnwys cyn-adrannau'r carchar ac estyniadau newydd a gwblhawyd yn wreiddiol gan benseiri gwahanol. Mae'r cynllun yn tafoli gwahanol elfennau yn gynnil iawn, gan droi'r celloedd gwreiddiol yn 94 llofft â stafell 'folchi modern, heb golli elfennau hanfodol a hyfryd y peirianwaith gwreiddiol. Caiff yr ystafelloedd eu rhannu dros gyfres o ardaloedd gwahanol - a'r mwyaf gwefreiddiol o'r rhain yw'r celloedd, ble mae cyntedd y carchar - ei risiau metal a'i rodfeydd unffurf - mewn cyflwr rhyfeddol. Tri chell wedi eu cnocio ynghyd yw'r rhan fwyaf o'r ystafelloedd, ond erys y drysau gwreiddiol (a gaiff eu cloi gan y gwestai bellach), waliau brics a'r nenfydau bŵaog. Lleolir yr ystafelloedd mewn pump ardal pur amrywiol o ran steil - ‘A Wing', ‘C Wing', ‘the Governor's House', ‘New Road Wing' a ‘the Houses of Correction'.

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales