04WAL: GWESTAI'R BYD

  • Plasdy i’r 21if GanrifPlasdy i’r 21if Ganrif
  • Plasdy i’r 21if Ganrif
  • Prototeip graddfa Marqués de Riscal
  • Strwythur dyfodolaidd a pentref Elciego
  • Pentref Elciego
  • Rhibanau dur gwrthstaen a titaniwm
  • Ffasâd cymleth a ffenestri ffram-pren ymwthiol
  • Rhodfa cydffiniol
  • Rhan o olygfa mewnol y Rhodfa
  • Canopy a golygfeydd
  • Manyion y ffasâd cydffiniol
  • Dur gwrthstaen adlewyrchiol a golygfeydd
  • Derbynfa – desg copr wrth fesur
  • Man eistedd yn y bar gwin
  • Bar pren masarnen a haen meddal
  • Arddangosfa gwin twll colomen pren haenog
  • Eisteddle sefydlog lledr crwm ambr llosg
  • Ystafell wely – lampiau cwmwl Gehry a pen gwely crwm
  • Cadair masarnen Alvar Aalto
  • Sgrîn y Tŷ Bwyta a Cadair ‘S’ Verter Panton
Spain - Marques de Riscal

Rhaglen 7

Yn fras

Mae'r gwesty nodedig newydd, Hotel Marqués de Riscal, yn aelod o'r Luxury Collection, ac mae'n swatio yn y Ddinas Win. Wedi ei gynllunio gan y pensaer enwog Frank O. Gehry, y gwesty yw ei ail gampwaith yn Sbaen, ar ôl Amgueddfa'r Guggenheim yn Bilbao.

Perchennog

Mae adeilad Gehry, sy'n eiddo i'r winllan Marqués de Riscal lleol, yn fwy o symbol rhyngwladol. Cafodd ei gomisiynu gan y winllan leol er mwyn hybu'r diddordeb cynyddol yng ngwinoedd Sbaen o amgylch y byd. Mae Riscal wedi adeiladu gwesty gyda delwedd newydd, deinamig newydd i wella twristiaeth ac i werthu mwy o win.

Hanes

Mae gwinllan Vinos Herederos del Marques de Riscal yn ardal Rioja yn Sbaen ac mae'n un o'r gwinllannoedd hynaf yn yr ardal. Yn draddodiadol, dyw'r gwinllannoedd yn yr ardal ddim ar agor i'r cyhoedd ond fel rhan o gynllun cyffredinol i ail ddiffinio a bywiogi ei delwedd gyhoeddus, comisiynodd Marques de Riscal gynllun ar gyfer adeilad bach gyda'r bwriad o roi profiad unigryw i bobl sy'n ymweld â'r winllan. Heddiw mae Marqués de Riscal Hotel yn enghraifft go iawn o fodernedd ac arloesed yn erbyn cefndir o hen winllan draddodiadol.

Nodweddion

Mae adeilad Frank Gehry yn eithriadol. Cwlwm o rubanau titaniwm pinc ac aur a dur gwrthstaen drychog yn cael ei gynnal gan golofnau tywodfaen monolithig a rhwydwaith dryslyd o ddur.

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test