04WAL: GWESTAI'R BYD

  • Y Grand Canal, FenisY Grand Canal, Fenis
  • Y Grand Canal, Fenis
  • Pensaernïaeth clasurol Fenisaidd ar y lagŵn
  • Ffasâd y gwesty a polyn unlliw gondola
  • Polyn unlliw gondola ac arwydd
  • Cynllun mewnol art deco dramatig
  • Byrddiau achlysurol siap cathaidd
  • Lamp llachar o blu
  • Cynllun mewnol trwm siambr wisgo
  • Cadair hir melfed mathredig
  • Ystafell ymolchi cyfoes – bwrdd a basn ymolchi
  • Rhosyn
  • Bar a Lle tân Fenisaidd
  • Gorchudd wal o felfed damasg
  • Wal stwco
  • Y Tŷ bwyta – ffasiwn yr ugeiniau
Italy - Palazzo Barbarigo

Rhaglen 7

Yn fras

Mae'r palazzo Fenisaidd yma ar lannau'r Grand Canal wedi ei drawsnewid yn llwyr, ac erbyn heddiw mae'n enghraifft wych o gynllunio a phensaernïaeth gyfoes. Mae'r Palazzo Barbarigo yn cyfuno hudoliaeth y ‘boudoir' gyda ‘deco chic' y dauddegau...

Rheolwyr

Caiff Palazzo Barbarigo ei reoli gan Mobygest Hotel Philosophy. Ar hyn bryd, mae 14 gwesty yn gweithredu o dan y brand yma. Sefydlodd Stefano Ugolini y Mobygest Hotel Philiosophy yn Rimini yn 1990, er mwyn gwneud y defnydd gorau o'i brofiad helaeth yn y diwydiant.

Hanes

Codwyd yr adeilad, y Barbarigo della Terrazza Palace, ar gyfer y teulu Barbarigo rhwng 1566-1570. Roedd y teulu yma'n cael eu hadnabod fel rhyw fath o ‘deulu Brenhinol' yn Fenis am gyfnod. Yn yr 19eg Ganrif, daeth yr adeilad i ddwylo cangen o deulu Giustinian, ac fe werthwyd nifer o'r casgliadau celf gwerthfawr. Yr unig greiriau sydd wedi goroesi yw addurniadau na ellir eu symud, ambell i ‘fresco' uwchben y drysau, nenfydau wedi eu peintio a friezes a phortreadau Doges yn y Capel

Agorwyd yr adeilad yn ail hanner 2007 fel gwesty cynllun, a bron nad ydi o'n grynhoad o naws cyfoes Fenis, ble mae'r hen a'r newydd yn cyd-blethu a chyd-fyw.
Nodweddion

Mae'r cysyniad wedi ei ysbrydoli gan gangen o ‘art deco' sydd yn cyfuno elfennau addurnol a neoglasurol. Canlyniad hyn yw awyrgylch goeth heb fod yn orffurfiol, ble mae ceinder yn cael ei adlewyrchu yn y manylion anarferol ac eironig; manylion sydd yn cynnwys plu, ac ymylon crand o bob math. Mae'r dodrefnu dramatig fel cysgod lamp wedi ei wneud o blu yn rhoi gwaed newydd i'r adeilad grande dame yma.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test