• Y Gromen ym MhortmeirionY Gromen ym Mhortmeirion
  • Y Gromen ym Mhortmeirion
  • Golygfeydd moryd Dwyryd
  • Cerflun yn yr Ystafell Ddrychau
  • Yr Ystafell Ddrychau
  • Ystafell wely
  • Lle tân y gwesty
  • Lleoliad heb ei ail
  • Tŷ Pont
  • Tollty - torlun dafad
  • Arwydd y Batri
  • Yr Ystafell Ddrychau
  • Cerflun tu allan i lety Neifion
Cymru - Portmeirion

Rhaglen 1

Yn fras

Cafodd y gwesty rhamantus yma ei adeiladu yng nghraig clogwyni moryd Portmeirion. Mae'n edrych dros y moryd o ganol pentref Eidalaidd ffantasiol Portmeirion. Dyma ganlyniad breuddwyd unigryw y pensaer ecsentrig Syr Clough Williams-Ellis, a daeth y pentref rhyfeddol yma yn enwog fel lleoliad y gyfres deledu gwlt, ‘The Prisoner'.

Pensaer

Yn enedigol o Loegr ond yn byw yng Nghymru, roedd Syr Bertram Clough Williams-Ellis (1883-1978) yn hannu o Gymru, ac mae o'n enwog yn bennaf am ei greadigaeth Eidalaidd ym Minffordd, Gwynedd.

Hanes

Adeiladwyd y gwesty yn 1850. Codwyd estyniad yn 1926 ac 1930, a chafodd ei gofrestru fel adeilad Gradd 2 yn 1971. Plasdy ‘Aber Iâ' oedd Portmeirion yn wreiddiol, a chafodd ei ddisgrifio fel "un o'r trigfannau haf mwyaf godidog ar hyd glannau môr Cymru". Pan ddaeth Williams-Ellis ar ei draws yn 1925 roedd y lle wedi mynd â'i ben iddo, ac roedd rhaid iddo benderfynu beth i'w wneud â'r llanast. "Yn amlwg roedd rhaid imi ddefnyddio'r hen dŷ ar lan y môr ar gyfer rhywbeth, a phetawn i eisiau pentref, roedd rhaid cael sail economaidd, a twristiaeth oedd yr ateb amlwg. Agorwyd y gwesty yn ddi-drwydded adeg y Pasg 1926, a minnau'n gobeithio'r gorau."  Rhwng 1954-76 fe aeth ati i berffeithio'r manylion, gan droi at ddulliau clasurol a Phaladaidd am ysbrydoliaeth.

Nodweddion

Mae yna 14 ystafell yn y gwesty, ac maen nhw'n rhai mawr. Bu ymdrech fawr i wneud pob ystafell yn wahanol, a phob un wedi ei haddurno yn chwaethus a chwbl unigryw. Mae'r moryd neu'r mynydd i'w gweld o bob llofft, a chewch gysgu yn y ‘Peacock Suite', lle bu Edward Vll yn aros yn ystod ei arwisgiad. Ail-gynlluniwyd yr ystafell fwyta gan Terence Conran, ac fe'i ysbrydolwyd gan longau teithio y 1930au, gan ddefnyddio paneli cnau Ffrengig, siandelïers crisial a bleinds Rhufeinig.

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales