o4wals4c logo
hafan o gwmpas y tai creu'r argraff y cyflwynwyr cysylltu English
Dummy alt text

Y cyflwynydd - Ers 2000 mae Aled Samuel wedi bod yn te ithio ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, gan gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl ac archwilio'u tai. Er ei fod wedi teithio llawer ac wedi curo ar nifer enfawr o ddrysau, mae ef gymaint wrth ei fodd nawr ag erioed.

“Mae'n hyfryd i siarad â'r perchnogion, a darganfod sut aethant o gwmpas personoli'u tai”, meddai Aled. “Mae'n hynod ddiddorol i archwilio'r dylanwadau a effeithia ar ddewisiadau pob unigolyn, a sut maent yn penderfynu ba steil i efelychu yn eu tai. Rwy wedi gweld cymaint o enghreifftiau o gynllunio mewnol arbennig, ac yn aml iawn ni fyddai neb wedi gallu dyfalu o’r tu allan beth oedd y tu mewn. Gallaf ddweud bod gen i ambell i syrpreis i chi yn ystod y gyfres, lle mae’r perchenogion wedi ymddiried yn eu gweledigaeth eu hunain, gan gyflawni rhywbeth sy’n annisgwyl ond yn gwbl gampus.”

Creda Aled mai cryfder 04Wal yw nad ydyw byth yn ffals. “Ni fyddem ni byth yn dweud wrthych beth sy'n ffasiynol gyda chynllunwyr uchel ael, na'n dangos cartrefi sy'n ymffrostio mewn faint o arian sydd wedi'i wario arnynt. Mae pob tŷ yn wahanol ac yn unigryw - yn yr union ffordd ag mae eu perchnogion yn unigolion arbennig. Ac mae tŷ pob unigolyn yn adlewyrchu rhyw elfen o’i bersonoliaeth, ac yn datgelu rhyw fanylion hynod ddiddorol am ei feddwl a'i deimladau.”

Golyga hyn ein bod ni’n edrych nid yn unig ar olwg allanol y cartrefi, ond hefyd y manylion maent yn eu cynnig datgelu am ffordd y perchenogion o fyw. Gallwn weld enghreifftiau o hyn yn yr eitemau sy’n edrych ar gartrefi dau gasglwr celfi sy'n dwli ar gelfi art deco. Pan y'chi'n cerdded i mewn i gartrefi Gwilym Roberts ym Mhenarth neu Phil Jones yng Ngheredigion, fe gewch eich trosglwyddo mewn amser nôl i steiliau swmpus y 1930au. Fe deimlais i fel pe tawn i'n camu i mewn i hen barlwr fy mam-gu! Roedd y ddau hyn yn gartrefi unigol, yn llawn darnau annisgwyl o'r cyfnod a oedd yn adlewyrchu hiwmor chwareus y perchenogion. Fy ffefryn i oedd clamp o gabined coctêls yn fflat Gwilym - celficyn â chanddo hanes liwgar.”

Bydd y gyfres newydd yn bwrw golwg ar rai tai sydd wedi’u crefftio’n ofalus gan y perchenogion, fel mae Aled yn egluro’n llawn brwdfrydedd. “Un tŷ a oedd yn bleser i’w weld oedd y ffermdy hynafol yn Sir Benfro sydd wedi’i adfer gan Griff Rhys Jones. Mae’r casgliad yma o adeiladau, sy’n cynnwys yr hen ffermdy gwreiddiol, estyniadau Sioraidd ac ychwanegiadau o’r 20fed Ganrif, wedi eu hadfer yn grefftus i greu cartref chwaethus lle mae popeth yn cyd-blethu, sy’n edrych fel ei fod wedi dod yn syth allan o un o ddarluniau John Knapp Fisher. Yna, dyna ffermdy Rhys ac Elen Williams allan yng nghefn gwlad Ceredigion, a fu’n wir llafur cariad wrth iddynt ei adfer. Maent wedi bod yn byw mewn carafán ar y safle ers tipyn, a dim ond nawr mae eu hymroddiad yn talu ac maent yn gallu mwynhau ffrwyth eu gwaith

“Bydd gennym bob math o dŷ yn y gyfres newydd - hen a newydd, mawr a bach, traddodiadol, cyfoes neu anarferol. Mae rhai o’r trawsffurfiau mwyaf cyfareddol yn y gyfres newydd yn gartrefi bychain, er enghraifft un Shelagh Hourahane. Mae hithau'n byw mewn hen ysgubor sydd wedi'i hymestyn i fanteisio ar y golygfeydd godidog dros y cyffiniau. Bellach dyma le braf i ymlacio a synfyfyrio.”

Yn wreiddiol o Aberafan, mae Aled nawr yn byw yn Llandeilo, mewn ty Sioraidd. "Ond ni fyddwch yn gweld criw ffilmio'n agos at fy nghartref i!” meddai dan chwerthin. “Wedi imi fynd o gwmpas gymaint o dai bobl eraill, dydwi ddim yn meddw l y byddai'n deg arna'i i ddangos fy nhŷ i ar y rhaglen. Efallai na fyddai'n cymharu'n dda gyda rhai o'r llefydd ardderchog ni wedi bod, ac y byddai rhai pobl yn sylwi ar hynny. Ond eto pan fyddwn ni wedi dod i'r eitem olaf, yn rhaglen olaf y gyfres olaf o 04 Wal, efallai - a dim ond efallai – y byddwn ni'n gadael y camerâu i mewn!”