Ffasâd pyramidaidd y gwesty a gorwel Dubai
Yr ardd fotenegol ar do Raffles
Manylder y bwlyn drws
Lobi’r dderbynfa
Coron y pyramid – eisteddle’r clwb nos
Golwg mewnol y fynedfa
‘Fire & Ice’, 1 o 11 bwytai yn y gwesty
Swît Arlywyddol
Cerflun y bar
Ystafell ‘ensuite’
Ystafell gyfarfod
Cadeiriau ar y copa
Grisiau marmor
Y glas a'r gwydr
Hieroglyffau
Cerflun y "Khartoum Head" gan Red Hot
Rhaglen 4
Yn fras
Mae'r gwesty deunaw llawr siâp pyramid yn ychwanegiad diweddar i ardal ffyniannus Dubai. Mae wedi ei leoli gerllaw prysurdeb canolfan siopa Wafi, ac o fewn tafliad carreg i un o'r ardaloedd busnes mwyaf poblogaidd, ‘souks' aur a Heol Sheikh Zayed.
Pensaernïaeth
Gweledigaeth y pensaer Bryn Lummus yw siâp nodedig y gwesty, ac fe ddatblygwyd y pyramid yn lleol gan y pensaer blaenllaw Michael Warr o Arif & Bintoak.
Hanes
Codwyd Raffles Dubai gan y Wafi Group, casgliad o fusnesau lleol a fuddsoddodd mwy na U$140m yn ei fenter gyntaf. Y cytundeb oedd y byddai'r gwesty yn cael ei redeg gan y cadwyn o gwmnïau lletygarwch Raffles Hotels and Resorts sydd yn hannu o Singapore. Y cytundeb yma oedd yn gyfrifol am lansio Raffles yn y Dwyrain Canol. Mae'r prosiect yma'n un nodedig am fod y gwesty wedi ei adeiladu o'r newydd, tra bod gwestai eraill Raffles Hotels and Resorts yn adeiladau o bwys hanesyddol, sydd wedi cael eu prynu gan y cwmni.
Nodweddion
O'r tu mewn i'r adeilad, pwysleiswyd yr elfen gyfoes gan y cwmni cynllunio lleol, LW Design Group, wrth ddefnyddio llinellau glân ac ychydig iawn o addurniadau yn y brif ardaloedd. Mynegir moethusrwydd drwy'r manylion a'r dewis o ddeunyddiau. Naddwyd y muriau a'r colofnau enfawr o garreg Eifftaidd; ac fe addurnwyd y colofnau yn gynnil gyda cherfiadau traddodiadol. Mae gwaith metel cymhleth i'w ganfod ar frig y colofnau ac o gylch y goleuadau, tra bod goleuo syml y cilfachau'n tynnu sylw at y cerfluniau Eifftaidd. Ag yntau â diddordeb mawr yn Yr Aifft, mae perchennog y gwesty, Sheikh Mana bin Khalifa Al Maktoum, wedi cynnwys naws gynnil o'r Dwyrain Canol, er mwyn rhoi ymdeimlad o leoliad i'r adeilad. Mae celf Arabaidd i'w weld ym mhob man, yn ogystal â dyblygiadau o gerfluniau anferth Karnak, tra bod nodweddion Llygad Horus wedi eu gweu i'r carpedi sy'n arwain at bob un o'r 248 ystafell. Mae'r sheikh hefyd yn arddwr mawr, ac mae wedi sicrhau bod yna ardd - y Botanical Sky Garden - ar drydydd llawr y gwesty. Mae i bob ystafell thema: y ddaear (lliwiau naturiol), tân (lliwiau tanllyd yn y deunyddiau a'r pren), aer (lliwiau hufennog a golau, sydd yn ymlacio) a dwr (ffynnon a dwr symudol), ac maent i gyd yn brolio golygfeydd eang o'r ddinas, yn ogystal â lolfa ar wahân.















