• Cyntedd mynedfaCyntedd mynedfa'r Riad a chelf gan Bridget Riley
  • Cyntedd mynedfa
  • Gardd fewnol y Riad
  • Ffrindiau a theulu’r ardd
  • Yr ardd fewnol min nos
  • Addurn wal
  • Pwll yr ardd a bwâu
  • Ystafell glaswyrdd Tadelakt
  • Ardal golffio 60 troedfedd ar y teras
  • Eisteddle
  • Lampau wedi atgynhyrchu o
  • Ystafell tadelakt oren ac addurn gwydr clopennog
  • Cadair ‘vintage’ a llawr teils emrallt â phatrwm saethben arni
  • Boudoir pinc
  • Gwaith celf yr ystafell binc
  • Boudoir pinc
  • Ffrâm ffenest Arabaidd teracota
  • Addurn wal wedi’u wneud o bren
  • Ystafell biws Tadelakt
  • Ystafell frown Tadelakt
  • Ystafell ymolchi Tadelakt gwyrdd
  • Lle tân y ystafell frown Tadelakt
  • Nenfwd plastr rhibog
  • Waliau coch wedi’u wneud o ledr camel ac wedi’u phwytho â llaw
  • Strydoedd Marrakech
Moroco - Riad El Fenn

Rhaglen 6

Yn fras

Cyfuniad o gyfaredd Asia a steil Ewropeaidd, dydy mynedfa dywyll, di-sylw Riad El Fenn - bum munud o brif sgwâr y Medina - yn datgelu dim o'r rhyfeddodau sydd tu hwnt iddi.

Perchnogion

Baglu ar draws yr adeilad mawr yma pan gollon nhw'u ffordd i'w gwesty wnaeth Vanessa Branson (chwaer Richard), a'i phartner busnes, Howell James, pan oedd y lle bron â mynd â'i ben iddo. ‘Riad' yw'r gair am dŷ neu balas Morocaidd traddodiadol, gyda gardd fewnol a chwrt o fewn y muriau. Daw'r gair o'r Arabeg am ardd, ‘ryad'. Ystyr El Fenn yw ‘celf' mewn Arabeg, a ‘hip' yn iaith leol y stryd.

Hanes

Prynwyd y lle ym mis Chwefror 2002 gan Branson a James pan oedd yr hen dŷ teuluol, a adeiladwyd gan ‘caid' (masnachwr gyda dyletswyddau o fewn y gynuned), yn marw ar ei draed.

Nodweddion

Does fawr o awgrym o'r wledd weledol sydd i'w gweld ym mhob twll a chornel wrth i chi fentro drwy ddrysau cochion y gwesty yma. Mae'r ddrysfa coridorau, sydd â dau gwrt mewnol, yn brolio naw ystafell cwbl unigryw a llawn cymeriad. Mae yma hen risiau pren wedi eu cerfio, rhodfeydd gwyrddion, tadelakt gyda manylion ifori, cadeiriau o'r 1940au, marmor du, ystafell sgrinio a gardd rosod! Ystafell y ‘Douira' yw'r un mwya' roc a rôl: llofft deulawr gyda chwts i wylio'r teledu, lle cysgu mawr i fyny grisiau, a theras a phwll plymio ar y top.

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales