04WAL: GWESTAI'R BYD

  • Arwydd AllanolArwydd Allanol
  • Arwydd Allanol
  • Derbynfa Gyda Llun Gan Jonathan Root o Gilbert & George
  • Cadair unigryw wedi ei ail-gylchu gan Karen Ryan
  • Llyfrau â thema tan yn y lle tan
  • Waliau wedi eu dadadeiladu
  •  Ieir bach yr haf mewn ffram ‘kitch’
  •  Arwyneb cyferbyniol – cyfoes a moethus a waliau dilys  garw
  • Grisiau
  • Y teimlad o le a chyfoeth, a mural gan Massimo Listri
  • Gwely/Soffa amlswyddogaeth wedi ei adeiladu’r bwrpasol
  • Set deledu o 1983 a cwnwhyllyr ‘shabby-chic’
  • Yr hen ar newydd – bath copr a papur wal retro
  • Darlun o liwiau a arwyneb gwaedog, llun gan Rabih Hage
  • Trompe L’oeils yr ystafell frecwast gan Massimo Listri
  • Lamp cwrel a mural ar y nenfwd o sgwar Eidalaidd
England - Rough Luxe

Rhaglen 8

Yn fras

Fel mae ei enw'n awgrymu, mae'r gwesty yma'n cyfuno'r garw a'r gwych, ac yn gosod defnyddiau moethus, dodrefnu amheuthun a chelf gyfoes ochr yn ochr â phaent sy'n plicio oddi ar y wal a phapur wal digon blêr. Dyma briodas hapus iawn rhwng moethusrwydd a'r garw yng nghanol Llundain.

Perchennog

Mae'r Rough Luxe Hotel yn rhan o'r Rough Luxe Experience Network. Mae gan Rabih Hage a'i gleient, gynlluniau ar droed i ddatblygu'r brand ‘Rough Luxe' mewn adeiladau anarferol ar hyd a lled y byd, yn ogystal â rhwydweithiau a phartneriaethau sy'n dilyn athroniaeth y Rough Luxe. Mae'r Rough Luxe yn gysyniad ar gyfer gwestai, bwytai a siopau llyfrau. Mae'r gwesty'n cynrychioli ffordd newydd o edrych ar foethusrwydd fel rhywbeth rhan-amser.

Hanes

Prynwyd yr adeilad gan gleient i Rabih Hage. Roedd y gwesty'n arfer cael ei redeg gan deulu Eidalaidd, ond roedd hi'n bryd adnewyddu a'i wneud yn fwy cyfoes. Mae'n adeilad rhestredig o'r 1850au felly roedd yna gyfyngiadau ar faint o ddatblygu oedd yn bosib o fewn y rheolau. Yn hytrach na thynnu'r hen adeilad Sioraidd yn ôl at ei chragen a llyfnhau'r darnau amherffaith, penderfynodd Rabih Hage y pensaer a'r cynllunydd, ymarfer math newydd o finimaliaeth. Penderfynodd wneud cyn lleied o waith adeiladu ac oedd yn bosib. Roedd o eisiau aros yn driw i stori'r adeilad a gwarchod ei hanes.

Nodweddion

Wrth gamu dros drothwy Rough Luxe Hotel fe fyddai'n ddigon naturiol i chi feddwl bod yr adeiladwyr wedi diflannu gan adael eu gwaith ar ei hanner. Ond dyma steil y lle - cyfuniad difyr o bensaernïaeth ddinesig, arwynebedd wedi hanner ei sandio, lloriau moel, paent yn plicio ac ymylon garw. Mae hyn i gyd yn cyd-fyw yn ddedwydd gyda phapur wal moethus a chyfoes, siop gelf fodern a dodrefn o'r safon uchaf.


© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales

test