• Cyntedd y dderbynfaCyntedd y dderbynfa
  • Cyntedd y dderbynfa
  • Golau a gorchudd wal metalig y bwth yn y bar
  • 84,000 mwclis gwydr
  • Eisteddle’r lobi
  • Cadeiriau cyfoes â phared gwydr
  • Ystafell wely las
  • Ystafell wely binc
  • Nodwedd wydr o fewn hen siafft lifft
Lloegr - The Forbury

Rhaglen 4

Yn fras

Saif y Forbury Hotel & Apartments yn sgwâr hanesyddol Forbury, a gaiff ei adnabod fel "Mayfair" dinas Reading. Mae'r Sgwâr wedi elwa yn ddiweddar o fuddsoddiad gwerth £2.5m er mwyn gwella ei gerddi.

Cynllun mewnol

Y cynllun yw'r rhyfeddod yma. Gyda'i gymysgfa o weadau, patrymau a lliwiau, mae'r cynllunydd mewnol Nicholas Hollinshead wedi creu ymateb moethus ond cyfoes i'r cynlluniau diflas, lliw hufen sydd bellach yn bla mewn gwestai corfforaethol dros y byd.

Hanes

Mae'r Forbury wedi ei gofrestru fel adeilad Gradd 1, ac wedi ei adeiladu yn arddull y Frenhines Anne yn 1912. Yn adeilad moethus, dinesig o frics coch, fe'i defnyddiwyd fel Neuadd y Sir Berkshire hyd nes i'w berchennog presennol, y datblygwr eiddo Toby Hunter o'r Waterbridge Group, benderfynu creu gwesty.

Nodweddion

Mae'r nenfydau bŵaog, y muriau panel, y coridorau llydan, y lloriau marmor a phileri'r adeilad gwreiddiol yn gwrthgyferbynu'n llwyr â'r ychwanegolion diweddaraf, gyda'u nodweddion cynnil yn amgylchynu'r tân, y papur wal trawiadol mewn lliwiau metal a phinc, a'r soffas patrymog. Mae chandelier wedi ei wneud o 84,000 glain gwydr yn crogi o dop i waelod yr adeilad, ac mae 7 cynllun gwahanol wedi eu defnyddio drwy'r 24 ystafell. Baddon gwydr yw prif nodwedd yr ystafell ganolog a gynlluniwyd gan Jeff Bell, cynllunydd gwydr o Lundain. Mae'r ystafell yma wedi ei lleoli uwchben y Grand Salon, ac yn brolio'r un manylion panelu a mowldio ar y waliau. Maent wedi eu peintio â llaw mewn cynllun blodeuog gyda lliwiau deunyddiau'r ystafell yn ganolog iddynt.

 

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales