• Ardal gymunedol - seddi croen buwchArdal gymunedol - seddi croen buwch
  • Ardal gymunedol - seddi croen buwch
  • Ardal gymunedol mewnol ac allanol
  • Cynllun agored y caban
  • Bathon wedi’u gastio o goncrit
  • Rhwyd a chwsg
  • Y safana
  • "Gofod byw"
  • Ein cymdog!
  • Strwythyr pilerog y caban
  • Machlud gogoneddus
  • Pwll nofio cymunedol
  • Y cabanau ar y graig
De Affrica - The Outpost

Rhaglen 2

Yn fras

Datblygwyd The Outpost er mwyn rhoi cynhaliaeth sefydlog i bobol frodorol y Makuleke.  Mae’r gwesty'n engraifft gyfoes o ‘lodge’ saffari, gyda 'stafelloedd syml, ond llawn steil unigryw.

Pensaer

Mae gan yr Eidalwr Enrico Daffonchio gydwybod amgylcheddol byw, ac mae pob adeilad a gynlluniwyd ganddo yn tystio i hynny. Mae’n ymwybodol iawn o brinder yr adnoddau sydd ar gael iddo, ac yn eu defnyddio gyda pharch ac ystyriaeth bob tro. Mae’n hoff o gyfuno deunyddiau naturiol a graffeg modern er mwyn aros yn driw i’r egwyddorion rheiny, gan greu cyfanwaith trawiadol ond cyfrifol.

Hanes

Nid mater hawdd oedd codi The Outpost. Cafodd ei adeiladu ar lain o dir cyfyng iawn, sydd yn disgyn yn sydyn i wastadir gydag afon gerllaw. Lleolir y gwesty ym Mharc Cenedlaethol Kruger, ac mae’r ardal yn cynnig golygfeydd trawiadol o harddwch naturiol, tra’n cadw’n driw i amcanion cymdeithasol y cynllun. Y bartneriaeth rhwng The Outpost a phobl y Makuleke ydi un o hanfodion y cynllun, a’r bwriad yn y pen draw yw mai’r bobol frodorol fydd biau’r gwesty. Yn y cyfamser maen nhw’n medru manteisio ar ei fodolaeth, gan fod cyfran o’i elw yn mynd i’w cynnal a’u hybu.

Nodweddion

Mae’r defnydd o linellau glân, dur a choncrid yn cyfrannu at naws gyfoes y gwesty, ac yn tynnu sylw at ei leoliad. Brîff y pensaer oedd i gyfuno elfennau cyfoes gyda chynllun ymarferol, a oedd yn gwneud y gorau o olygfeydd godidog yr ardal. Mae sgrinau symudol yn y 'stafelloedd, sy'n galluogi i ymwelwyr fwynhau ehangder ac ysblander yr afon Luvuvhu. Un o brif nodweddion y cynllun yw mai prin iawn  yw ei ymyrraeth yn yr amgylchedd. Defnyddiwyd rhodfeydd uchel, ‘decking’, a stiltiau i godi lefel yr adeiladau, i greu cyfanwaith nad yw’n amharu bron dim ar y tir o’i gwmpas. Cafodd y pibelli dŵr, trydan a ffôn eu cuddio, fel nad yw’r ddaear wedi ei anharddu.

Mae The Outpost yn aelod Design Hotels.

 

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales